Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dysgwyr yn ymarfer eu Cymraeg yn Sain Ffagan

Dysgwyr yn ymarfer eu Cymraeg yn Sain Ffagan

Bydd dros 50 o ddysgwyr o dde Cymru yn manteisio ar adnodd addysgiadol newydd sbon wrth ymweld â Sain Ffagan fore Iau, 15 Tachwedd 2018.

Mae pecyn Llwybrau Llafar wedi cael ei greu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru ac yn addas ar gyfer dysgwyr o bob lefel.

Bydd dysgwyr o ardaloedd Gwent, Morgannwg a chriw o athrawon y Cynllun Sabothol – cynllun arbennig i ddysgu Cymraeg i athrawon - yn treulio bore ar y safle er mwyn ymarfer eu sgiliau Cymraeg trwy ddilyn yr adnodd am y tro cyntaf.

Bydd y pecyn yn galluogi’r dysgwyr i ddysgu mwy am adeiladau eiconig Sain Ffagan, gan gynnwys Ysgol Maestir, Eglwys Sant Teilo a Thai Teras Rhyd y Car ac mae’r gweithgareddau wedi’u seilio ar lefelau dysgu gwahanol y sector Dysgu Cymraeg.

Wrth fynd o amgylch y safle a dilyn canllawiau’r pecyn, bydd modd i’r dysgwyr wneud gwaith pâr ac ateb cwestiynau sydd wedi’u gosod ar y gwahanol adeiladau.  Yn ychwanegol, bydd geirfa ddefnyddiol ar bob tudalen er mwyn eu cynorthwyo gyda’r tasgau.

Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.  Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gweithio’n agos â’r amgueddfa a bydd Ar Lafar, gŵyl undydd Gymraeg i ddysgwyr yn dychwelyd i’r safle ar 6 Ebrill 2019.

Yn ôl Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

‘‘Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm â’r gwaith o greu’r pecyn gwerthfawr hwn.  ’Dyn ni’n edrych ymlaen at ymweld â’r safle a defnyddio’r adnodd am y tro cyntaf ddydd Iau.  Gobeithio y gwnaiff y pecyn gyfoethogi profiad unrhyw ddysgwr ddaw i Sain Ffagan yn y dyfodol a chryfhau eu sgiliau iaith Gymraeg ar yr un pryd.’’

Mae nifer gyfyngedig o gopïau papur o’r pecyn ar gael yn Sain Ffagan neu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol neu gellir lawr lwytho copi ar wefan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yma.