Mae Sebastian Harker yn dod o Cheltenham yn Sir Gaerloyw, ac er ei fod wedi clywed ychydig o Gymraeg ar gyfres deledu Dr Who pan oedd yn ifanc, doedd e ddim yn gwybod llawer am yr iaith nes iddo gychwyn Cwrs Perfformio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin yn 2013.
Ac er fod ganddo ddiddordeb mawr yn yr iaith, a’i fod yn ei chlywed o’i gwmpas bob dydd, doedd Sebastian ddim yn meddwl y byddai’n gallu dysgu a siarad Cymraeg.
Ond ar ddiwedd ei drydedd blwyddyn, cafodd ei berswadio gan gwpl o ffrindiau y gallai ddysgu’r iaith a mentrodd ddechrau dysgu gydag app Duolingo.
Aeth ymlaen yn ystod y cyfnod clo i ddefnyddio app SaySomethinginWelsh (SSIW), cael cyfle i ddechrau siarad Cymraeg yn ddyddiol tra’n gweithio ar gynhyrchiad Operation Julie gyda Theatr na nÓg yn 2022 a chychwyn gwersi ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain yn 2023.
Erbyn hyn, mae’n defnyddio’r Gymraeg yn ei waith bob dydd gyda Theatr na nÓg fel Cydlynydd Ymgysylltu Creadigol ac yn trafod yn gyson gydag ysgolion ac artistiaid trwy gyfrwng y Gymraeg.
Fel rhywun sydd wedi defnyddio Duolingo, SSIW a gwersi ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain, mae’n falch ei fod wedi arbrofi gyda gwahanol ffyrdd o ddysgu, ac yn teimlo fod y tair ffordd wedi helpu mewn gwahanol ffyrdd.
Mae’n teimlo fod Duolingo wedi ei helpu i ddatblygu geirfa trwy gemau ac ati a SSIW yn dda er mwyn dechrau siarad Cymraeg. Mae’n gweld fod y gwersi ar-lein gyda Dysgu Cymraeg wedi bod yn wych i ymarfer siarad yn gywir a dysgu am strwythur a phatrymau iaith.
Meddai Sebastian, “Mae dysgu siarad Cymraeg fel darganfod lefel arall mewn gêm fideo – mae wedi agor y drws ar fyd newydd. Dw i’n dechrau pob sgwrs yn Gymraeg ac wrth fy modd yn defnyddio fy sgiliau newydd.
“Mae gallu siarad Cymraeg yn deimlad arbennig iawn ac mae pob siaradwr newydd yn bwysig i sicrhau dyfodol yr iaith.”
Ei gyngor i unrhyw un sy’n dechrau dysgu Cymraeg yw i arbrofi a chyfuno gwahanol ffyrdd o ddysgu, gan fod pawb yn mwynhau dysgu yn wahanol.