Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Meinir Ebbsworth, Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy’n sôn am y cyfleoedd Dysgu Cymraeg sydd ar gael ar gyfer pobl ifanc a’r gweithlu addysg

Meinir Ebbsworth, Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy’n sôn am y cyfleoedd Dysgu Cymraeg sydd ar gael ar gyfer pobl ifanc a’r gweithlu addysg

Creu siaradwyr Cymraeg newydd yw prif nod y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae cyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol, a’u denu a’u cefnogi i ddysgu a mwynhau’r Gymraeg yn flaenoriaeth barhaus wrth i ni gefnogi polisi Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.

Yn ystod y flwyddyn a mwy diwethaf, mae darpariaeth y Ganolfan wedi ymestyn, a bellach, mae rhaglenni Dysgu Cymraeg eang ar gael ar gyfer pobl ifanc a’r gweithlu addysg.

Cyfleoedd i bobl ifanc 16 i 25 oed

Yn ddisgyblion ysgol neu’n fyfyrwyr addysg bellach neu uwch, yn dilyn prentisiaeth, neu’n gweithio, mae cyfleoedd di-ri i bobl ifanc ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.

Mae ystod eang o gyrsiau hwyliog ar gael, yn gwbl rhad ac am ddim, wyneb yn wyneb yn y gymuned neu mewn dosbarthiadau rhithiol. Mae cyfoeth o adnoddau dysgu digidol hefyd ar gael, ac yn ystod yr haf, byddwn yn cynnal cwrs preswyl penodol. Bydd y cwrs yn cyd-fynd â Gŵyl Canol Dre Caerfyrddin, ac yn rhoi cyfle i’r bobl ifanc gymdeithasu a mwynhau cerddoriaeth Gymraeg yn ogystal â dilyn gweithdai iaith.

Mae creu partneriaethau yn greiddiol i lwyddiant a datblygiad y ddarpariaeth i’r to ifanc. ’Dyn ni’n cydweithio â phartneriaid fel yr Urdd, Mudiad Ffermwyr Ifanc, Gwobr Dug Caeredin a darparwyr prentisiaethau megis Twf Swyddi Cymru+ i gyrraedd cynulleidfaoedd ifanc.

I ddysgu mwy am y ddarpariaeth i bobl ifanc, dilynwch y ddolen nesaf: Cymraeg i Bobl Ifanc | Dysgu Cymraeg

Gweithlu addysg

Mae gwaith y Ganolfan gyda’r sector addysg yn holl bwysig, ac mae ein rhaglen gynhwysfawr ar gyfer y sector yma yn cynnwys ystod o hyfforddiant a chefnogaeth i athrawon, penaethiaid, darpar athrawon, cynorthwywyr dosbarth a’r gweithlu cefnogi mewn ysgolion.

Mae cyrsiau ar gael ar lefelau gwahanol, o ddechreuwyr i godi hyder - ac yn amrywio o ran eu dull dysgu, boed wyneb yn wyneb, yn rhithiol, neu’n hunan-astudio ar-lein. Fel rhan o’r ddarpariaeth, mae cyrsiau preswyl yn cael eu cynnal, sy’n gyfle i ddysgwyr drochi yn yr iaith a magu hyder i’w defnyddio.

O fis Medi 2025 ymlaen, bydd y rhaglen yn cynnwys y ddarpariaeth dysgu dwys – y cynllun sabothol gynt.

Mae nod deublyg i’r ddarpariaeth, sef yn gyntaf, cryfhau sgiliau Cymraeg y gweithlu addysg, ac yn ail, ymbweru athrawon i gynyddu defnydd o’r iaith yn yr ysgol, a chyflwyno’r Gymraeg ar lawr y dosbarth.

I ddysgu mwy am y ddarpariaeth i’r gweithlu addysg, dilynwch y ddolen nesaf: Cymraeg Gweithlu Addysg | Dysgu Cymraeg neu mae croeso i chi ebostio cymorth@dysgucymraeg.cymru.