
Mae Melanie Owen yn gomedïwr, cyflwynydd ac awdur sy’n wreiddiol o Aberystwyth. Mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Cyhoeddodd ei llyfr cyntaf yn 2024, Oedolyn (ish), sy’n hunangofiant ysgafn. Mae’n edrych ar y gwersi mae wedi eu dysgu cyn troi’n 30 oed. Mae’r llyfr yn ddoniol ac yn hawdd ei ddarllen, er bod Mel yn trafod amryw o brofiadau anodd.
Cawson ni sgwrs gyda Mel...
Oeddet ti'n hoffi ysgrifennu yn yr ysgol?
Ro’n i wrth fy modd yn ysgrifennu pan o’n i yn yr ysgol. Ro’n i’n mynd i glwb ysgrifennu ar ôl ysgol i ddysgu mwy am sut i wella fy ngwaith, ac ym Mlwyddyn Chwech, enillais gystadleuaeth ryddiaith yn Eisteddfod yr Urdd.
Beth sy'n dy ysbrydoli i ysgrifennu?
Pob dim sy’n digwydd o fy amgylch. Mae’n well gen i edrych ar y pethau bychain ac ystyried sut maen nhw’n effeithio ar ein bywydau. Dw i’n hoff o ysgrifennu am y bobl bwysig yn ein bywydau - ein ffrindiau, ein teulu, ein cariadon. Gall pawb uniaethu rhywsut, achos maen nhw’n dylanwadu’n fawr ar sut ’dyn ni’n gweld y byd.
Pa adeg o'r dydd wyt ti’n ysgrifennu?
Ar ôl coffi cynta’r bore. Os nad ydy’r tywydd yn wael, dw i’n hoffi mynd am dro ar ôl deffro, dychwelyd i’r tŷ, rhoi’r tegell ymlaen ac yna eistedd lawr i ysgrifennu gyda meddwl clir am weddill y dydd.
Lle wyt ti'n hoffi ysgrifennu?
Dw i’n gallu ysgrifennu unrhyw le (os oes coffi yna i fi yfed tra’n teipio). Mae rhaid i fi gael tawelwch llwyr - neu gerddoriaeth glasurol yn dawel iawn.

Weithiau, pan mae syniad neu hyd yn oed jyst llinell yn fy mwrw i, mae’n rhaid i fi ei ysgrifennu yn yr ap nodiadau ar fy ffôn, cyn i mi ei anghofio! Mae pob siwrne car yn cymryd oes i mi, achos mae’n rhaid i fi stopio i ysgrifennu fy syniadau lawr drosodd a throsodd.
Beth fyddai dy gyngor i unrhyw un sy eisiau dechrau ysgrifennu?
Cadw dyddiadur dyddiol. Does dim angen ysgrifennu tudalen ar ben tudalen, ond mae’r arfer yna o stopio i ystyried ac ysgrifennu bob dydd yn mynd i fod yn ffordd dda o arbed dy hunan rhag writer’s block. Mae e hefyd yn hwyl i edrych yn ôl ar beth sydd wedi digwydd yn dy fywyd er mwyn ysbrydoli syniadau creadigol.
Oes 'na lyfrau eraill ar y gweill?
Yn bendant! Mae gen i’r byg erbyn hyn ac mae gen i lwyth o syniadau, felly mae’n rhaid i fi eu mapio nhw i gyd allan ac ymrwymo i’r un hoffwn i ysgrifennu nesa. Dw i hefyd angen ysgrifennu awr o stand-yp newydd felly mae gen i lawer iawn i’w deipio!