Mwy o gyfleoedd i fwynhau dysgu Cymraeg a chyrsiau trwy gyfrwng yr iaith
Mae cynyddu cyfleoedd i oedolion ddysgu Cymraeg a mwynhau cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg wrth galon ‘Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth’ newydd rhwng Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae’r ddau sefydliad eisoes yn rhannu nod cyffredin o ddarparu cyfleoedd dysgu o safon sy’n grymuso pobl o bob cefndir i gyrraedd eu llawn botensial. Trwy gydweithio, y bwriad yw ennyn diddordeb mewn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â chyfeirio dysgwyr at yr ystod eang o gyrsiau Dysgu Cymraeg sydd ar gael.
Mae Addysg Oedolion Cymru yn barod yn darparu ystod o gyrsiau, megis crefft, defnyddio iPads, a hanes a datblygiad y Gymraeg, trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddant nawr yn gweithio mewn partneriaeth â’r Ganolfan i hyrwyddo’r cyrsiau hynny i ddysgwyr Cymraeg y Ganolfan Genedlaethol, tra hefyd yn cynyddu nifer y pynciau sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae cyrsiau Dysgu Cymraeg y Ganolfan Genedlaethol yn cael eu cynnal mewn dosbarthiadau rhithiol ac wyneb yn wyneb ar bum lefel ddysgu. Gall myfyrwyr hefyd astudio'n annibynnol ar-lein, neu gallant ddilyn cyrsiau dysgu cyfunol, sy'n cyfuno hunan-astudio ar-lein gyda dysgu dan arweiniad tiwtor.
Mae gan y Ganolfan Genedlaethol gyrsiau Dysgu Cymraeg wedi'u teilwra ar gyfer gwahanol sectorau gwaith hefyd, gan gynnwys Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar. Mae cwrs WSOL (Cymraeg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) 10-awr ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a ddatblygwyd gan y Ganolfan Genedlaethol, yn cael ei addysgu gan Addysg Oedolion Cymru.
Bydd Addysg Oedolion Cymru yn gweithio gyda’r Ganolfan Genedlaethol i hyrwyddo’r ystod lawn o gyrsiau Dysgu Cymraeg i’w dysgwyr.
Bydd y cytundeb newydd hefyd yn annog a chefnogi staff a thiwtoriaid Addysg Oedolion Cymru i ddysgu Cymraeg fel rhan o'u datblygiad proffesiynol parhaus.
Mwy...
2/2
Dywedodd Kathryn Robson, Prif Weithredwr Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales:
“Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous, a bydd yn galluogi mwy o bobl ledled Cymru i gael mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
“Ein gweledigaeth yw gwella mynediad at ystod eang o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg. Fel sefydliad rydym yn teimlo’n gryf y dylai pobl gael yr opsiwn o ddysgu yn eu dewis iaith, beth bynnag fo’u dewis o gwrs a ble bynnag y bônt yng Nghymru.
“Mae’r bartneriaeth yma yn cyfoethogi’r elfen bwysig hon o’n darpariaeth yn fawr, ac rydym yn falch iawn o gydweithio â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.”
Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“Mae gweithio mewn partneriaeth gydag ystod o sefydliadau i ehangu’r cyfleoedd i bobl ddysgu a mwynhau’r Gymraeg yn rhan allweddol o gylch gwaith y Ganolfan, a ’dyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gydag Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales.
“Mae dysgu sgil newydd fel y Gymraeg yn rhoi hyder i bobl ac yn gallu agor drysau o ran swyddi posibl, diddordebau a chysylltiadau â phobl eraill. Ac mae dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn rhoi cyfle i’n dysgwyr Cymraeg ddatblygu eu sgiliau, wrth fwynhau dysgu am bwnc arall.”
Diwedd
31.3.22