Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Partneriaeth newydd

Partneriaeth newydd

Mwy o gyfleoedd i fwynhau dysgu Cymraeg a chyrsiau trwy gyfrwng yr iaith

Mae cynyddu cyfleoedd i oedolion ddysgu Cymraeg a mwynhau cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg wrth galon ‘Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth’ newydd rhwng Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae’r ddau sefydliad eisoes yn rhannu nod cyffredin o ddarparu cyfleoedd dysgu o safon sy’n grymuso pobl o bob cefndir i gyrraedd eu llawn botensial.  Trwy gydweithio, y bwriad yw ennyn diddordeb mewn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â chyfeirio dysgwyr at yr ystod eang o gyrsiau Dysgu Cymraeg sydd ar gael.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn barod yn darparu ystod o gyrsiau, megis crefft, defnyddio iPads, a hanes a datblygiad y Gymraeg, trwy gyfrwng y Gymraeg.  Byddant nawr yn gweithio mewn partneriaeth â’r Ganolfan i hyrwyddo’r cyrsiau hynny i ddysgwyr Cymraeg y Ganolfan Genedlaethol, tra hefyd yn cynyddu nifer y pynciau sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae cyrsiau Dysgu Cymraeg y Ganolfan Genedlaethol yn cael eu cynnal mewn dosbarthiadau rhithiol ac wyneb yn wyneb ar bum lefel ddysgu.  Gall myfyrwyr hefyd astudio'n annibynnol ar-lein, neu gallant ddilyn cyrsiau dysgu cyfunol, sy'n cyfuno hunan-astudio ar-lein gyda dysgu dan arweiniad tiwtor.

Mae gan y Ganolfan Genedlaethol gyrsiau Dysgu Cymraeg wedi'u teilwra ar gyfer gwahanol sectorau gwaith hefyd, gan gynnwys Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar.  Mae cwrs WSOL (Cymraeg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) 10-awr ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a ddatblygwyd gan y Ganolfan Genedlaethol, yn cael ei addysgu gan Addysg Oedolion Cymru.

Bydd Addysg Oedolion Cymru yn gweithio gyda’r Ganolfan Genedlaethol i hyrwyddo’r ystod lawn o gyrsiau Dysgu Cymraeg i’w dysgwyr.

Bydd y cytundeb newydd hefyd yn annog a chefnogi staff a thiwtoriaid Addysg Oedolion Cymru i ddysgu Cymraeg fel rhan o'u datblygiad proffesiynol parhaus.

 

Mwy...

2/2

Dywedodd Kathryn Robson, Prif Weithredwr Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales:

“Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous, a bydd yn galluogi mwy o bobl ledled Cymru i gael mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

“Ein gweledigaeth yw gwella mynediad at ystod eang o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg.  Fel sefydliad rydym yn teimlo’n gryf y dylai pobl gael yr opsiwn o ddysgu yn eu dewis iaith, beth bynnag fo’u dewis o gwrs a ble bynnag y bônt yng Nghymru.

“Mae’r bartneriaeth yma yn cyfoethogi’r elfen bwysig hon o’n darpariaeth yn fawr, ac rydym yn falch iawn o gydweithio â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.”

Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Mae gweithio mewn partneriaeth gydag ystod o sefydliadau i ehangu’r cyfleoedd i bobl ddysgu a mwynhau’r Gymraeg yn rhan allweddol o gylch gwaith y Ganolfan, a ’dyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gydag Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales.

“Mae dysgu sgil newydd fel y Gymraeg yn rhoi hyder i bobl ac yn gallu agor drysau o ran swyddi posibl, diddordebau a chysylltiadau â phobl eraill.  Ac mae dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn rhoi cyfle i’n dysgwyr Cymraeg ddatblygu eu sgiliau, wrth fwynhau dysgu am bwnc arall.”

Diwedd

31.3.22