Mwy o oedolion yn dysgu Cymraeg yn ddigidol
Mae cynnydd yn y niferoedd sy’n dysgu Cymraeg yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud, gyda dros 8,000 o ddysgwyr yn dilyn cyrsiau digidol gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae cyrsiau ‘cyfunol’ cenedlaethol newydd, sy’n cyfuno dysgu o bell dan arweiniad tiwtor gyda dysgu ar-lein annibynnol, wedi denu 1,300 o ddechreuwyr.
Mae’r cyrsiau rhad ac am ddim newydd ddechrau. Mae 89 o ddosbarthiadau rhithiol yn cael eu harwain gan diwtoriaid profiadol, ac yn parhau am gyfnod o 10 wythnos. Mae dysgwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt yn ymuno â’r dosbarthiadau.
Ers canol mis Mawrth, mae bron 7,000 o ddysgwyr wedi dilyn cyrsiau blasu ar-lein rhad ac am ddim y Ganolfan, sy’n cyflwyno geirfa ac ymadroddion pob dydd. Mae nifer o’r cyrsiau wedi’u teilwra ar gyfer gwahanol sectorau, gan gynnwys Addysg, Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae’r Ganolfan wedi cyflwyno mentrau digidol eraill dros y misoedd diwethaf hefyd, gan gynnwys gwersi fideo dyddiol wedi’u ffrydio’n fyw ar Facebook. Mae gwylwyr o Dubai a’r Ariannin wedi ymuno â dysgwyr yng Nghymru i wylio’r fideos, sydd ar gael i’w gwylio eto.
Mae clipiau fideo ar-lein newydd wedi’u cyflwyno, i gyd-fynd â’r 1,500 o adnoddau fideo, sain a rhyngweithiol sy’n barod ar gael ar wefan y Ganolfan, dysgucymraeg.cymru
Mae cynlluniau ar y gweill i gynnal sesiynau cwestiwn ac ateb byw ar Facebook, sesiynau wythnosol ar gyfer rhieni a gofalwyr plant bach a chyrsiau ‘cyfunol’ ar lefelau dysgu eraill. Bydd y Ganolfan hefyd yn ail-lansio’r cynllun ‘Siarad’, sy’n paru dysgwyr gyda siaradwyr Cymraeg, gyda’r bwriad o gynyddu hyder dysgwyr.
Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae’r sector Dysgu Cymraeg wedi ymateb yn bositif i heriau’r cyfnod cyfyngiadau symud gydag ystod o fentrau sy’n galluogi oedolion i barhau i ddysgu ac ymarfer y Gymraeg yn eu cartrefi.
“Mae dysgu sgil newydd yn rhoi sbardun a hyder i bobl ac mae ymuno â dosbarth yn ffordd dda o gysylltu â phobl eraill ac o gael trefn a strwythur mewn cyfnod ansicr. Edrychwn ymlaen at groesawu’r dysgwyr newydd hyn i’n cymuned ac at eu cefnogi wrth iddynt ddysgu a mwynhau’r Gymraeg.”
Ychwanegodd Cheryl George o Bontypridd, sy’n dilyn un o’r cyrsiau ‘cyfunol’ newydd: “Dw i wedi eisiau dysgu Cymraeg ers amser hir. Dw i wedi rhoi tro ar ddysgu yn y gorffennol, ond roedd bywyd a gwaith yn rhy brysur.
“Nawr mod i ar gyfnod ‘furlough’ o’r gwaith, mae gen i’r amser i ddysgu. Fe welais i bod y cwrs yma ar gael ar-lein ac roedd hynny’n swnio’n berffaith. Ro’n i bach yn nerfus a phryderus am yr elfen ar-lein – sut fyddai’n gweithio? Roedd y sesiwn gyntaf dros Zoom yn ardderchog! Mae’r tiwtor yn hwyl ac yn llawn egni – fe wnaeth hynny greu argraff arna i a’r grŵp. Fe gethon ni amser gyda’n gilydd fel criw ac mewn grwpiau ‘break out’ llai.
“Ro’n i’n teimlo’n fwy brwdfrydig i ddysgu na fyddwn i efallai wedi bod yn dilyn sesiwn yn yr ystafell ddosbarth. Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddatblygu fy nealltwriaeth o’r Gymraeg dros y naw wythnos nesaf a thu hwnt.”
Diwedd
18.5.20