Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Miloedd mwy yn dysgu

Miloedd mwy yn dysgu

Mwy o oedolion yn dysgu Cymraeg yn ddigidol

Mae cynnydd yn y niferoedd sy’n dysgu Cymraeg yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud, gyda dros 8,000 o ddysgwyr yn dilyn cyrsiau digidol gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae cyrsiau ‘cyfunol’ cenedlaethol newydd, sy’n cyfuno dysgu o bell dan arweiniad tiwtor gyda dysgu ar-lein annibynnol, wedi denu 1,300 o ddechreuwyr.

Mae’r cyrsiau rhad ac am ddim newydd ddechrau. Mae 89 o ddosbarthiadau rhithiol yn cael eu harwain gan diwtoriaid profiadol, ac yn parhau am gyfnod o 10 wythnos. Mae dysgwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt yn ymuno â’r dosbarthiadau.  

Ers canol mis Mawrth, mae bron 7,000 o ddysgwyr wedi dilyn cyrsiau blasu ar-lein rhad ac am ddim y Ganolfan, sy’n cyflwyno geirfa ac ymadroddion pob dydd.  Mae nifer o’r cyrsiau wedi’u teilwra ar gyfer gwahanol sectorau, gan gynnwys Addysg, Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae’r Ganolfan wedi cyflwyno mentrau digidol eraill dros y misoedd diwethaf hefyd, gan gynnwys gwersi fideo dyddiol wedi’u ffrydio’n fyw ar Facebook.  Mae gwylwyr o Dubai a’r Ariannin wedi ymuno â dysgwyr yng Nghymru i wylio’r fideos, sydd ar gael i’w gwylio eto.

Mae clipiau fideo ar-lein newydd wedi’u cyflwyno, i gyd-fynd â’r 1,500 o adnoddau fideo, sain a rhyngweithiol sy’n barod ar gael ar wefan y Ganolfan, dysgucymraeg.cymru

Mae cynlluniau ar y gweill i gynnal sesiynau cwestiwn ac ateb byw ar Facebook, sesiynau wythnosol ar gyfer rhieni a gofalwyr plant bach a chyrsiau ‘cyfunol’ ar lefelau dysgu eraill.  Bydd y Ganolfan hefyd yn ail-lansio’r cynllun ‘Siarad’, sy’n paru dysgwyr gyda siaradwyr Cymraeg, gyda’r bwriad o gynyddu hyder dysgwyr.

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae’r sector Dysgu Cymraeg wedi ymateb yn bositif i heriau’r cyfnod cyfyngiadau symud gydag ystod o fentrau sy’n galluogi oedolion i barhau i ddysgu ac ymarfer y Gymraeg yn eu cartrefi.

“Mae dysgu sgil newydd yn rhoi sbardun a hyder i bobl ac mae ymuno â dosbarth yn ffordd dda o gysylltu â phobl eraill ac o gael trefn a strwythur mewn cyfnod ansicr.  Edrychwn ymlaen at groesawu’r dysgwyr newydd hyn i’n cymuned ac at eu cefnogi wrth iddynt ddysgu a mwynhau’r Gymraeg.”

Ychwanegodd Cheryl George o Bontypridd, sy’n dilyn un o’r cyrsiau ‘cyfunol’ newydd: “Dw i wedi eisiau dysgu Cymraeg ers amser hir.  Dw i wedi rhoi tro ar ddysgu yn y gorffennol, ond roedd bywyd a gwaith yn rhy brysur.

“Nawr mod i ar gyfnod ‘furlough’ o’r gwaith, mae gen i’r amser i ddysgu.  Fe welais i bod y cwrs yma ar gael ar-lein ac roedd hynny’n swnio’n berffaith.  Ro’n i bach yn nerfus a phryderus am yr elfen ar-lein – sut fyddai’n gweithio?  Roedd y sesiwn gyntaf dros Zoom yn ardderchog!  Mae’r tiwtor yn hwyl ac yn llawn egni – fe wnaeth hynny greu argraff arna i a’r grŵp.  Fe gethon ni amser gyda’n gilydd fel criw ac mewn grwpiau ‘break out’ llai. 

“Ro’n i’n teimlo’n fwy brwdfrydig i ddysgu na fyddwn i efallai wedi bod yn dilyn sesiwn yn yr ystafell ddosbarth.  Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddatblygu fy nealltwriaeth o’r Gymraeg dros y naw wythnos nesaf a thu hwnt.”

Diwedd

18.5.20