Cysylltiad cryf Natalie â'r Gymraeg
Wedi'i geni a’i magu yn Hwlffordd, Sir Benfro, roedd gan Natalie Thomas, 29 oed, gysylltiad cryf â'r Gymraeg erioed.
Mynychodd ysgol Saesneg ei hiaith Ysgol Uwchradd Tasker Milward yn Hwlffordd, lle gwnaeth TGAU a Lefel A yn y Gymraeg a chael ei magu yn sŵn yr iaith, yn enwedig pan oedd yn ymweld â’i mam-gu a’i thad-cu a oedd yn siarad Cymraeg yn Llanelli.
Meddai Natalie, “Ers o’n i’n fach, dw i wedi bod yn dysgu geiriau fan hyn a fan draw heb sylwi bron ac roeddwn i wrth fy modd yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol. Roedd gen i athrawes Gymraeg anhygoel ac fe wnes i wir fwynhau astudio Cymraeg fel ail iaith ar gyfer fy TGAU a Lefel A.”
Yna pan oedd yn 24 oed, penderfynodd ei bod am fynd ymhellach gyda’i dysgu ac ailgyflwyno’r iaith i’w bywyd.
Ychwanegodd, “Dechreuais gydag apiau fel Duolingo a SaySomethinginWelsh, BBC Bitesize a gwylio rhaglenni fel Jonathan a Pobol y Cwm ar S4C. Mi oeddwn i hefyd yn siarad mwy o Gymraeg gyda mam-gu a tad-cu yn Llanelli.”
Penderfynodd Natalie wedyn ei bod am ymuno â dosbarth Dysgu Cymraeg a dechreuodd gael gwersi gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro, sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Sir Benfro ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ym mis Medi 2020.
“Mae’r gwersi’n wych, ac mae fy nhiwtor, Ann yn anhygoel. Dw i wedi gwneud llawer o ffrindiau drwy’r gwersi ac mae’n neis iawn gallu siarad Cymraeg gyda nhw.
“Mae hynny wedi fy helpu gyda’m hyder yn siarad Cymraeg – dydw i ddim yn hoffi gwneud camgymeriadau ac mae hynny wedi fy nal yn ôl ychydig rhag siarad mwy o Gymraeg yn y gorffennol.
“Mae’r gwersi yn sicr wedi fy helpu i roi cynnig ar siarad mwy o Gymraeg yn fy mywyd o ddydd i ddydd.”
Ym mis Medi 2022, bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnig cyrsiau Cymraeg am ddim i bobl ifanc 18-25 oed.
Ychwanegodd Natalie, “Dw i’n cael gymaint o bleser yn dysgu Cymraeg, a byddwn yn annog unrhyw un sy’n meddwl amdano jest i’w wneud. Efallai ei fod yn swnio’n wirion, ond mae’n fy ngwneud i mor falch fy mod bellach yn dysgu iaith sy’n unigryw i Gymru – ei hiaith ni ydy hi, ac mae’n rhan bwysig o’n diwylliant.
“Dw i wrth fy modd gyda’r ffaith fy mod i’n dysgu ein hiaith ni.”
Am fwy o fanylion ac i gofrestru eich diddordeb, cliciwch yma.