
Croeso!
Helo, a chroeso cynnes iawn i chi gyd ar ddechrau tymor newydd. ’Dyn ni yma i’ch helpu chi ar bob cam o’ch taith iaith. Pob lwc gyda’r dysgu!
Dona Lewis,
Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Pwy yw’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol?
Y Ganolfan sy’n arwain y sector Dysgu Cymraeg, ac mae’n gweithio gyda darparwyr ar hyd a lled Cymru i gynnal cyrsiau amrywiol. Cwblhaodd 18,330 o bobl ein cyrsiau yn 2023-2024, y nifer uchaf erioed. ’Dyn ni’n croesawu pobl o bob cefndir i fwynhau dysgu a defnyddio’r Gymraeg. Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen nesaf: Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol | Dysgu Cymraeg
Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg
Rhwng 11-17 Hydref, bydd BBC Radio Cymru ac S4C yn cynnal Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg. Mae’n gyfle i glywed storïau dysgwyr a mwynhau eitemau a rhaglenni ar gyfer dysgwyr a siaradwyr newydd. Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen nesaf: Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg | Dysgu Cymraeg
Defnyddio eich Cymraeg
Eisiau ymarfer a mwynhau eich Cymraeg y tu allan i’r gwersi? Mae llawer o syniadau ar ein tudalen ‘Defnyddio eich Cymraeg’, gan gynnwys:
- Adnoddau defnyddiol
- Cyfres lyfrau Amdani
- Sadwrn Siarad
Dilynwch y ddolen nesaf i weld be sy ar gael: Defnyddio eich Cymraeg | Dysgu Cymraeg
Cynllun Siarad
Dysgu Cymraeg ar lefel Canolradd neu Uwch? Beth am gymryd rhan yn ‘Siarad’, cynllun sy’n dod â dysgwyr a siaradwyr Cymraeg at ei gilydd? I ddarllen mwy am ‘Siarad’, dilynwch y ddolen nesaf: Siarad | Dysgu Cymraeg
Cronfa
Mae’n bosib cael help ariannol gyda chostau gofal plant, adnoddau a theithio. Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen nesaf: Cronfa Ariannol | Dysgu Cymraeg
Cyswllt
Mae croeso i chi gysylltu â ni ar swyddfa@dysgucymraeg.cymru gyda unrhyw gwestiynau neu sylwadau.
Pob hwyl gyda’r dysgu!
Pawb yn Dysgu Cymraeg
O.N. Cofiwch ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol!