Nick Treharne
Mae Nick Treharne yn ffotograffydd llawrydd, profiadol o Benarth, Bro Morgannwg. Nick oedd beirniad y gystadleuaeth ffotograffiaeth a gynhaliwyd ar y cyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fel rhan o’r ŵyl i ddysgwyr, Ar Lafar. Thema’r gystadleuaeth oedd ‘Fy Nghymru i’. Beth am ddod i wybod mwy am Nick?
O ble wyt ti’n dod?
Dw i’n dod o Abertawe yn wreiddiol ond symudais i Gaerdydd ar ôl i mi ddechrau gweithio i’r Western Mail ym 1995. Dw i’n byw ym Mhenarth nawr.
Sut wyt ti’n ymdopi yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn?
Wel, dw i’n gweithio i mi fy hun nawr felly does dim gwaith ’da fi ar hyn o bryd. Ond dw i’n lwcus iawn i gael llawer o ddiddordebau eraill; dw i’n dysgu caneuon newydd ar y gitâr, ymarfer y piano a dw i’n treulio amser ar y cyfrifiadur yn dysgu Sbaeneg a Chymraeg wrth gwrs. Hefyd, dw i’n hoffi coginio.
Pryd wnest ti ddechrau tynnu lluniau?
Prynais i fy nghamera cyntaf pan o’n i’n 19 oed ond penderfynais i fy mod i eisiau gweithio fel ffotograffydd pan o’n i’n 29 oed.
Disgrifia ychydig o dy waith os gweli di’n dda?
Yn amlach na pheidio, mae’n well ’da fi gyflwyno fy lluniau mewn du a gwyn. Dw i’n hoffi cwrdd â phobl, sgwrsio â nhw am ychydig ac wedyn tynnu eu llun.
Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am dy waith?
Heb os, dw i’n hoffi mynd allan i gwrdd â phobl newydd.
Pryd wnes ti ddysgu Cymraeg?
Dechreuais i astudio Cymraeg 18 mis yn ôl felly dw i’n dal i ddysgu. Dw i’n ceisio darllen neu siarad ychydig o Gymraeg bob dydd os yn bosib.
Pam wnest ti ddysgu Cymraeg?
Wel, Cymro dw i ac allwn i ddim siarad yr iaith! Fy iaith fy hun! Dw i’n hoffi dysgu ieithoedd eraill, a hefyd dw i eisiau gallu cysylltu mwy â siaradwyr Cymraeg.
Beth yw dy hoff air Cymraeg?
‘Ysbyty’ oedd e ond ar ôl darllen cwestiwn dau yn yr holiadur yma, dw i’n meddwl taw ‘ymdopi’ yw fy hoff air bellach!
Disgrifia dy hun mewn 3 gair.
Meddylgar; Artistig; Penderfynol.
Dy gyngor i ddysgwyr y Gymraeg.
Darllenwch lyfr dych chi’n ei hoffi. Dw i’n darllen un gan Lois Arnold o enw “Ffenestri” drosodd a throsodd! A cheisiwch siarad cymaint â phosib o Gymraeg bob dydd.
Wele'r llun isod o Nick, ac enghreifftiau o'i waith hefyd.