Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Nick Treharne

Mae Nick Treharne yn ffotograffydd llawrydd, profiadol o Benarth, Bro Morgannwg.  Nick oedd beirniad y gystadleuaeth ffotograffiaeth a gynhaliwyd ar y cyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fel rhan o’r ŵyl i ddysgwyr, Ar Lafar.  Thema’r gystadleuaeth oedd ‘Fy Nghymru i’. Beth am ddod i wybod mwy am Nick?

O ble wyt ti’n dod?

Dw i’n dod o Abertawe yn wreiddiol ond symudais i Gaerdydd ar ôl i mi ddechrau gweithio i’r Western Mail ym 1995. Dw i’n byw ym Mhenarth nawr.

Sut wyt ti’n ymdopi yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn?

Wel, dw i’n gweithio i mi fy hun nawr felly does dim gwaith ’da fi ar hyn o bryd. Ond dw i’n lwcus iawn i gael llawer o ddiddordebau eraill; dw i’n dysgu caneuon newydd ar y gitâr, ymarfer y piano a dw i’n treulio amser ar y cyfrifiadur yn dysgu Sbaeneg a Chymraeg wrth gwrs. Hefyd, dw i’n hoffi coginio.

Pryd wnest ti ddechrau tynnu lluniau?

Prynais i fy nghamera cyntaf pan o’n i’n 19 oed ond penderfynais i fy mod i eisiau gweithio fel ffotograffydd pan o’n i’n 29 oed.

Disgrifia ychydig o dy waith os gweli di’n dda?

Yn amlach na pheidio, mae’n well ’da fi gyflwyno fy lluniau mewn du a gwyn. Dw i’n hoffi cwrdd â phobl, sgwrsio â nhw am ychydig ac wedyn tynnu eu llun.

Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am dy waith?

Heb os, dw i’n hoffi mynd allan i gwrdd â phobl newydd.

Pryd wnes ti ddysgu Cymraeg?

Dechreuais i astudio Cymraeg 18 mis yn ôl felly dw i’n dal i ddysgu. Dw i’n ceisio darllen neu siarad ychydig o Gymraeg bob dydd os yn bosib.

Pam wnest ti ddysgu Cymraeg?

Wel, Cymro dw i ac allwn i ddim siarad yr iaith! Fy iaith fy hun! Dw i’n hoffi dysgu ieithoedd eraill, a hefyd dw i eisiau gallu cysylltu mwy â siaradwyr Cymraeg.

Beth yw dy hoff air Cymraeg?

‘Ysbyty’ oedd e ond ar ôl darllen cwestiwn dau yn yr holiadur yma, dw i’n meddwl taw ‘ymdopi’ yw fy hoff air bellach!

Disgrifia dy hun mewn 3 gair.

Meddylgar; Artistig; Penderfynol.

Dy gyngor i ddysgwyr y Gymraeg.

Darllenwch lyfr dych chi’n ei hoffi. Dw i’n darllen un gan Lois Arnold o enw “Ffenestri” drosodd a throsodd!  A cheisiwch siarad cymaint â phosib o Gymraeg bob dydd.

 

Wele'r llun isod o Nick, ac enghreifftiau o'i waith hefyd.