Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Nifer uwch nag erioed o fyfyrwyr meddygaeth Prifysgol Abertawe yn dysgu Cymraeg

Nifer uwch nag erioed o fyfyrwyr meddygaeth  Prifysgol Abertawe yn dysgu Cymraeg
Llun meddygaeth

Mae nifer uwch nag erioed o fyfyrwyr meddygaeth Prifysgol Abertawe yn manteisio ar y cyfle i ddysgu Cymraeg. 

Mae 62 myfyriwr ar y cwrs Meddygaeth i Raddedigion (Graduate Entry Medicine – ‘GEM’) yn mynychu gwersi wythnosol mewn dosbarthiadau rhithiol, gyda’r nod o wella eu sgiliau cyfathrebu er mwyn darparu gwell cefnogaeth i gleifion sy’n siaradwyr Cymraeg. 

Mae’r myfyrwyr yn dilyn cwrs newydd i ddechreuwyr, a ddatblygwyd gan ‘Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe’, un o ddarparwyr cyrsiau y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae’r cwrs yn cyflwyno geirfa a brawddegau sy’n berthnasol i’r byd meddygol i’r myfyrwyr, fydd yn mynd ar leoliadau ar draws Cymru yn ystod eu pedair blynedd o astudio.  Bwriad y cwrs, hefyd, yw tanio brwdfrydedd yn y myfyrwyr a sicrhau eu bod yn cael hwyl wrth ddysgu Cymraeg. 

Eglura Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, cartref Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe:

“Yn y gorffennol, mae cyrsiau preswyl wedi’u cynnal ar gyfer myfyrwyr GEM, sydd wedi denu oddeutu 50 o fyfyrwyr ar y tro, fodd bynnag rydyn ni’n falch dros ben i weld nifer uwch nag erioed yn dilyn ein cwrs newydd eleni.

“Lluniwyd y cwrs er mwyn rhoi sgiliau cyfathrebu gwell i fyfyrwyr meddygaeth a fyddai’n gweddu’n well i’w hamgylchedd gwaith yng Nghymru.  Bydd nifer o’r myfyrwyr yn dewis aros yng Nghymru ar ôl iddynt raddio, a gobeithiwn mai dechrau eu taith yw’r cyflwyniad hwn i’r iaith, naill ai’n adennill eu sgiliau Cymraeg neu eu datblygu o’r newydd.  Mae gweld eu brwdfrydedd i ymwneud â’r iaith ac ychwanegu sgil arall i’w rôl fel meddygon yn wych.”

Dyma sydd gan rai o’r myfyrwyr GEM i ddweud am eu profiadau.

Mae Francis, myfyrwraig ail flwyddyn, wedi darganfod bod ei sgiliau Cymraeg yn arbennig o ddefnyddiol wrth drin cleifion hŷn sy’n dioddef o ddementia neu ddeliriwm. Eglura: “Fe welais glaf yn dioddef o ddeliriwm, ac roedd wedi cynhyrfu tipyn. Doedd y staff ddim yn gallu ei thawelu wrth siarad Saesneg ond yn syth ar ôl dweud ambell frawddeg yn ei hiaith gyntaf, Cymraeg, dechreuodd ymateb ac roedd yn help i’w chysuro a’i chefnogi wrth i ni ei thawelu.”

Francis Beynon, o Bort Talbot

Eglura Catrin , “Fy mwriad yw gweithio yng Nghymru drwy gydol fy ngyrfa feddygol felly dw i’n gobeithio gallu siarad ychydig o Gymraeg gyda chleifion sy’n siaradwyr Cymraeg er mwyn iddynt deimlo’n fwy cartrefol.”

Catrin Mazkouri, sy’n wreiddiol o Sgeti, Abertawe

Mae Ruchika ar ei blwyddyn gyntaf o’r cwrs GEM. Meddai, “Ymunais â’r cwrs dysgu Cymraeg er mwyn cael gwybodaeth sylfaenol a gallu siarad yn hyderus â chleifion fel myfyrwraig ac fel meddyg yn nes ymlaen. Dw i wedi mynychu tair gwers hyd yn hyn ac yn gallu defnyddio cyfarchion Cymraeg gyda ffrindiau ac mae’n rhoi gwên ar eu hwynebau i weld fy niddordeb yn eu hiaith.”

Ruchika Nongrum, o’r India

Mae Giorgia wedi byw yn Abertawe am bedair o’r pum mlynedd mae hi wedi bod yn y DU. Meddai: “Dw i eisiau dysgu Cymraeg achos dw i’n meddwl bydd dysgu geiriau sylfaenol Cymraeg yn fy helpu i greu perthynas gyda fy nghleifion yn ystod fy amser ar leoliadau clinigol. Yn ddiddorol, dw i’n gweld rhai pethau sy’n debyg yn Eidaleg ac mae hyn wedi gwneud dysgu Cymraeg yn fwy o hwyl eto. Er na fyddaf yn aros yng Nghymru drwy gydol fy ngyrfa, mae’n gyfle gwych i mi ymestyn fy ngorwelion diwylliannol. Diolch am y cyfle!”

Giorgia Appolloni, o’r Eidal

Mae gan Tanvi, sydd ym mlwyddyn gyntaf y cwrs, ddiddordeb mewn dysgu ieithoedd. Meddai: “Pan benderfynais symud i Gymru, un o fy mhrif flaenoriaethau oedd dysgu Cymraeg, yn enwedig o ystyried y byddwn yn gweithio mewn cymunedau ble’r Gymraeg fyddai iaith gyntaf nifer o bobl... dw i wedi mwynhau’r gwersi Cymraeg yn fawr hyd yma ac yn edrych ymlaen at yr wythnosau nesaf.”

Tanvi Thomas, o Seland Newydd

Doedd Emily, myfyrwraig GEM arall yn ei blwyddyn gyntaf, heb glywed llawer o Gymraeg cyn y cwrs hwn, ac meddai, “Yn ddiweddar dw i wedi symud a dw i’n rhannu fflat gyda siaradwr Cymraeg. Mae e wedi bod yn fy helpu i ymarfer y brawddegau dw i wedi’u dysgu yn y gwersi, sydd wedi bod yn wych.”

Emily Cornwell, o Surrey

Meddai Theo, sydd wedi byw yng Nghymru am y pum mlynedd ddiwethaf, “Mae hyd yn oed dweud ychydig eiriau yn gallu gwneud y gwahaniaeth mwyaf i rai cleifion.”

Theo de Rancourt, o Baris

Astudiodd Constantinos ei radd israddedig yn Abertawe, a bellach mae yn ei flwyddyn gyntaf fel myfyriwr meddygaeth. Teimlai fod y cwrs wedi ei alluogi i fod yn agosach at y gymuned a’r diwylliant Cymraeg. “Mae dysgu Cymraeg wedi rhoi pwrpas i fi. Fel meddyg y dyfodol, mae gofyn arnaf i wella fy sgiliau cyfathrebu yn ystod fy hyfforddiant meddygol. Mae’r cwrs hwn wedi caniatáu i fi wneud hynny a nawr dw i’n meddwl y bydda i’n gallu rhyngweithio gydag ystod ehangach o gleifion a chydweithwyr.” Ychwanega: “Dw i’n teimlo bod y cwrs wedi fy ngalluogi i ddangos parch yn ôl i wlad a diwylliant sydd wedi fy natblygu i’n academaidd ac yn bersonol dros y tair blynedd ddiwethaf a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd eto.”

Constantinos Demetriou, o Gyprus

Meddai Emyr Jones, tiwtor Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, “Er nad yw pob myfyriwr yn disgwyl gweithio yng Nghymru yn y dyfodol, maen nhw’n gwerthfawrogi pwysigrwydd dysgu ychydig o Gymraeg i’w defnyddio fel rhan o’u hyfforddiant mewn ysbytai yng Nghymru.  Mae’r myfyrwyr mor frwdfrydig ac yn cydnabod pwysigrwydd gallu cyfathrebu gyda chleifion yn eu hiaith ddewisol – bydd hyd yn oed defnyddio ymadroddion syml yn gwneud byd o wahaniaeth i helpu cleifion i ymlacio.”

Mae’r Athro Kamila Hawthorne, sy’n Bennaeth Meddygaeth i Raddedigion ym Mhrifysgol Abertawe ac sydd hefyd yn dysgu Cymraeg, yn dweud: “Wrth gael eu croesawu i Gymru, mae ein myfyrwyr meddygaeth yn Abertawe wedi llwyr gofleidio byw ac astudio yng Nghymru.  Maen nhw wedi dangos gwir frwdfrydedd i ddysgu Cymraeg ac i gymathu gyda phobl Cymru, a gobeithiwn y byddant yn cadw darn bach o Gymru yn eu calonnau!  Byddai’n hyfryd eu gweld yn aros yma!”