![Selebs yn dysgu Cymraeg ar S4C](/media/7263/crop-iaith-ar-daith-colin-ac-eleri-llyfrgell-gen.jpg?crop=0,0,0,0.49260137806393312&cropmode=percentage&width=780&height=400&rnd=132322177500000000)
Colin Jackson yn neidio ar y cyfle i ddysgu Cymraeg
Mae’r athletwr Olympaidd o Gaerdydd, Colin Jackson, yn un o sawl seleb sy’n cymryd rhan mewn cyfres adloniant newydd ar S4C, ‘Iaith ar Daith’ sy’n cael ei noddi gan dysgucymraeg.cymru
Bydd Colin yn ymuno â’r actores a’r awdur, Ruth Jones, y gyflwynwraig Carol Vorderman, a sawl un arall yn y gyfres, sy’n dechrau am 8.00pm nos Sul 19 Ebrill.
Bydd y selebs yn cael eu paru gyda wynebau adnabyddus, gan gynnwys y gyflwynwraig Eleri Siôn, yr actores Gillian Elisa a’r cyflwynydd tywydd Owain Williams, sy’n eu mentora a’u cefnogi i gwblhau sawl sialens ieithyddol.
Darllenwch fwy am brofiadau Colin yma.
Mae mwy o fanylion am y gyfres ar gael ar wefan S4C.
Gallwch wylio rhaglenni sydd wedi eu dewis yn arbennig ar gyfer dysgwyr Cymraeg ar sianel ar-lein Dysgu Cymraeg S4C.
Diwedd