Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dyn ni wedi symud i ddysgu ar-lein ac o bell. Byddwn yn diweddaru’r wefan gyda mwy o wybodaeth neu fe allwch gysylltu gyda’ch darparwr cwrs lleol.

Selebs yn dysgu Cymraeg ar S4C

Colin Jackson yn neidio ar y cyfle i ddysgu Cymraeg

Mae’r athletwr Olympaidd o Gaerdydd, Colin Jackson, yn un o sawl seleb sy’n cymryd rhan mewn cyfres adloniant newydd ar S4C, ‘Iaith ar Daith’ sy’n cael ei noddi gan dysgucymraeg.cymru

Bydd Colin yn ymuno â’r actores a’r awdur, Ruth Jones, y gyflwynwraig Carol Vorderman, a sawl un arall yn y gyfres, sy’n cael ei darlledu ym mis Ebrill.

Bydd y selebs yn cael eu paru gyda wynebau adnabyddus, gan gynnwys y gyflwynwraig Eleri Siôn, yr actores Gillian Elisa a’r cyflwynydd tywydd Owain Williams, sy’n eu mentora a’u cefnogi i gwblhau sawl sialens ieithyddol.

Mae mwy o fanylion am y gyfres ar gael ar wefan S4C

Gallwch wylio rhaglenni sydd wedi eu dewis yn arbennig ar gyfer dysgwyr Cymraeg ar sianel ar-lein Dysgu Cymraeg S4C.

Diwedd

Mae ‘Iaith ar Daith’ yn rhan o ymgyrch S4C Iaith2020 i sbarduno’r drafodaeth am yr iaith Gymraeg ymysg pobl Cymru i gyd.  Bydd yn gyfle i drafod hanes yr iaith, ei phwysigrwydd a’i dyfodol.