Mae Liz Williams, sy’n byw yn Melbourne, Awstralia, yn dysgu’r Gymraeg er mwyn dod i ddeall a gwerthfawrogi mwy am hanes ei chyndeidiau – ac un o’r ffyrdd mae’n ymarfer yr iaith yw trwy ddefnyddio’r adnoddau digidol ar wefan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Magwyd Liz yn Efrog Newydd, a bu’n byw ym Mhensylvania am gyfnod tra oedd yn fyfyrwraig yno. Roedd yn ymwybodol o’i gwreiddiau Cymreig, ac roedd straeon am ei hen hen daid a ymfudodd o Gymru i Efrog Newydd ym 1886 yn gwneud iddi eisiau dysgu mwy am yr iaith a’i hanes.
Roedd ei thad yn mynd â hi i Gymanfaoedd Canu ar draws Gogledd Ddwyrain America pan oedd yn ferch ifanc. Un o’i hatgofion cyntaf oedd sefyll yn y blaen yn bum mlwydd oed yn un o’r eglwysi hynny, a chanu’r emyn ‘Calon Lân’. Er nad oedd hi’n medru ynganu’r geiriau’n gywir, nac yn gwybod beth oedd eu hystyr, plannwyd yr hedyn a sicrhaodd y byddai ei diddordeb yng Nghymru a’r Gymraeg yn parhau tan ei bod yn oedolyn.
Dechreuais i ddysgu Cymraeg yn 2012 ar ôl clywed am yr app SaySomethingInWelsh (SSiW). Dw i wrth fy modd yn defnyddio’r adnoddau ar wefan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol hefyd, dysgucymraeg.cymru, ac wedi bod yn dilyn eu cyrsiau ar-lein. Mae hyn yn fy helpu i ddatblygu geirfa newydd ac i ynganu’n well. Dw i bellach yn gallu defnyddio’r hyn dw i’n ei ddysgu mewn sgyrsiau bob dydd. Fe wnes i allu defnyddio’r Gymraeg yn ystod fy ymweliad ag Eisteddfod Genedlaethol Meifod yn 2015
Liz Williams
Symudodd Liz i Melbourne yn 2018 a phenderfynu parhau gyda dosbarth Cymraeg yno a oedd yn cael ei drefnu gan Eglwys Gymraeg Melbourne. Meddai, “Dw i wrth fy modd yn gwrando ar Radio Cymru, a gwylio rhaglenni fel Rownd a Rownd ar S4C. Dw i’n defnyddio Duolingo bob dydd hefyd, ac yn trefnu sgyrsiau ar Skype gyda fy nheulu sy’n dal i fyw yng Nghymru.”
Er nad yw’r dosbarth hwnnw yn Melbourne wedi medru parhau o ganlyniad i reoliadau caeth pandemig Covid-19, mae grŵp o’r un dosbarth yn dod at ei gilydd yn wythnosol i sgwrsio a thrafod gyda thiwtor yng Nghymru dros Zoom.
Ar ei hymweliad cyntaf â Chymru pan oedd yn 11 mlwydd oed, ymwelodd y teulu â’r tŷ ger Aberdaron lle magwyd ei hen hen daid cyn iddo ymfudo i America, a chafodd hyn effaith ddofn ar Liz. Penderfynodd ddychwelyd i Ben Llŷn yn 21 oed, gan ymweld â llefydd eraill o gwmpas Cymru ar sawl achlysur yn ystod y flwyddyn honno. Erbyn hyn mae hi’n mwynhau’r wefr o gael dysgu mwy am hanes ei theulu yng Nghymru gan fynd ati i gyfieithu hen ddogfennau, llythyron ac erthyglau papur newydd o’r Gymraeg i’r Saesneg.
“Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ar-lein ers saith mis bellach, a dyma’r normal newydd! Fy hoff beth am ddysgu Cymraeg yw i fedru cyfathrebu gydag aelodau o’r teulu sy’n dal i fyw yng Nghymru. Fy hen hen daid oedd yr unig un o 10 o frodyr a chwiorydd a wnaeth ymfudo i America. Dw i’n meddwl yn aml pa mor wahanol fyddai fy mywyd i wedi bod pe na bai e wedi gadael Cymru,” meddai.
Yn ystod y cyfnod clo mae Liz wedi manteisio ar y cyfle i orffen drafft cyntaf ei llyfr sy’n adrodd hanes yr effaith a gafodd yr ymfudo o Gymru ar weddill y teulu ar hyd y cenedlaethau, gan edrych ar ei thaith hi i ddysgu’r Gymraeg.
Ychwanegodd Liz, “Fy nghyngor i ddysgwyr y Gymraeg fyddai i sicrhau eu bod yn cael digonedd o gyfleon i ddefnyddio’r iaith. Mae gwylio teledu Cymraeg a gwrando ar Radio Cymru, neu hyd yn oed fwynhau llyfr Cymraeg, wedi bod o gymorth mawr i fi. Mae angen dyfalbarhau – dyw hi ddim yn bosib dysgu iaith dros nos.”
Hoffai Liz ddiolch yn fawr i’w thiwtoriaid Cymraeg yn Pittsburgh, Melbourne ac yng Nghymru sydd wedi ei hannog i ddal ati, ac mae hi’n edrych ymlaen at gael dychwelyd i Gymru ac i ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol unwaith eto pan fydd hynny’n bosib.
Mae llu o adnoddau dysgu digidol ar gael yn rhad ac am ddim ar ein gwefan i ddysgwyr ym mhob cwr o’r bryd a ’dyn ni’n falch iawn o groesawu a chefnogi Liz wrth iddi barhau ar ei thaith i ddysgu’r iaith
Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol