Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

O Hong Kong i’r Barri – taith iaith Maria a Kwok

O Hong Kong i’r Barri – taith iaith Maria a Kwok

Mae Maria Tong a Kwok Hung Cheung yn wreiddiol o Hong Kong ond symudon nhw i Gymru yn 2020. Maen nhw’n byw yn y Barri ac yn dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Y Fro ers mis Hydref 2021.

Dyma eu stori:

Sut wnaethoch chi gyfarfod?

Maria: Gwnaethon ni gyfarfod mewn siop lyfrau ychydig cyn i ni ddechrau yn y brifysgol. Dw i'n fyr ac mae e'n dal a doeddwn i ddim yn gallu cyrraedd llyfr ar y silff uchaf a gwnaeth Kwok fy helpu... a dyna oedd dechrau’r daith!

Beth wnaethoch chi ei astudio yn y brifysgol?

Kwok: Gwnes i astudio Ffiseg Gymhwysol yn y brifysgol ac yna es i ymlaen i weithio i gwmni yswiriant yn Hong Kong

Maria: Gwnes i astudio Gweinyddiaeth Busnes mewn prifysgol arall ac yna es i ymlaen i weithio i Lywodraeth Hong Kong.

Pam symudoch chi i Gymru?

Maria: Penderfynon ni symud yn dilyn protest Hong Kong yn 2019, pan basiwyd Cyfraith Diogelwch Cenedlaethol Hong Kong ym mis Gorffennaf 2020. Gan ein bod ni wedi ein geni cyn 1997, mae gennym ni statws Gwladolyn Prydeinig (Tramor) ac felly fe gawson ni ganiatâd i adleoli i'r DU.

Kwok: Dywedodd fy rheolwr yn Hong Kong wrtha i hefyd bod Cymru yn wlad brydferth ac y dylen ni ystyried symud yno, yn hytrach nag i un o ddinasoedd mawr Lloegr. Ac ar ôl byw yn Hong Kong ers dros 40 mlynedd, doedden ni ddim eisiau byw mewn dinas fawr arall!

Sut ddysgoch chi am y Gymraeg gyntaf?

Maria: Doedden ni'n gwybod dim byd o'r iaith nes i ni symud yma. Yn sydyn gwnaethon ni sylwi ar arwyddion ffyrdd dwyieithog yng Nghymru. Mae gyda ni rai dwyieithog yn Hong Kong hefyd, sy’n cynnwys llythrennau Ewropeaidd a Tsieineaidd. Ond roedd yn gwneud i ni deimlo'n rhyfedd iawn peidio deall y ddwy iaith - felly ro’n ni eisiau dysgu Cymraeg.

Pryd ddechreuoch chi ddysgu?

Maria: Dechreuon ni ddysgu ym mis Hydref 2021. Ro’n ni eisiau mynychu dosbarthiadau yn bersonol yn hytrach nag ar-lein, gan ein bod ni eisiau cyfarfod pobl eraill oedd yn dysgu'r iaith.

Pa mor hawdd oedd dysgu i ddechrau?

Maria: ’Dyn ni’n meddwl bod ‘ch’, ‘ll’ ‘th’ ac yn y blaen yn iawn, ond ’dyn ni’n gweld hi’n anodd iawn rholio ein ‘r’!! Mae'n hollol wahanol i unrhyw sain sydd gyda ni!

Kwok: Ond mae’r Gymraeg yn ddiddorol iawn, a ’dyn ni wrth ein bodd yn dysgu'r iaith. Mae'n swnio'n hyfryd ac mae siarad neu ddarllen yr iaith yn broses mor braf. Mae pobl yn gwerthfawrogi gymaint ein bod yn dysgu'r iaith.

Pa mor aml dych chi'n cael cyfle i siarad Cymraeg y tu allan i'r dosbarth?

Kwok: Nid oes llawer o bobl yn siarad Cymraeg yn ein cymuned, ond mae llawer o gyfleoedd mewn boreau coffi mewn caffis lleol a’r llyfrgell lle ’dyn ni’n gweithio’n rhan amser.

Maria: Mae llawer o’n cyd-fyfyrwyr hefyd yn dod i’r bore coffi yn y llyfrgell – ’dyn ni wedi dod â nhw gyda ni!

Beth sy nesaf ar eich taith iaith?

Maria: ’Dyn ni’n mynd i barhau gyda'n cwrs Sylfaen 2 a hoffen ni hefyd ddysgu mwy am Gymru a'i hanes a'i diwylliant. Ro’n ni wrth ein bodd pan glywon ni bod gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol fodiwl, yn Cantoneg, am Gymru a’i hanes – bydd hwn yn wych i ni.

Mae pecyn adnoddau ‘Croeso i Bawb’ ar gael am ddim o wefan dysgucymraeg.cymru ac mae’n cynnwys modiwl hunan-astudio am Gymru a chwrs blasu Dysgu Cymraeg ar-lein.