Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

O Rwmania i Gymru: Alex yn dechrau ar ei thaith i ddysgu’r Gymraeg

O Rwmania i Gymru: Alex yn dechrau ar ei thaith i ddysgu’r Gymraeg

Mae Alex Tudur, sy’n wreiddiol o Timisoara yn Rwmania, wedi symud i Aberystwyth i fyw gyda’i gŵr newydd, ac wedi dechrau dysgu Cymraeg ers rhai wythnosau mewn dosbarth rhithiol. Mae’r cwrs, sydd ar gyfer dechreuwyr, yn cael ei gynnal gan Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gâr ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n trefnu cyrsiau Cymraeg yn yr ardal ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Ganwyd a magwyd Alex yn Rwmania, ond symudodd i ysgol breswyl yn Rhydychen pan oedd yn 16 mlwydd oed. Astudiodd Fathemateg ym Mhrifysgol Durham, cyn symud i weithio mewn ysgol ac yna i elusen yn ôl yn Rhydychen. Yno, cyfarfu â’i gŵr, Gwilym, sydd o Gaerdydd.

Erbyn hyn, mae’r cwpl wedi ymgartrefu yn Aberystwyth, lle mae Gwilym yn gweithio fel gweinidog mewn capel Cymraeg yn y dref.

 

Dechreuais ddysgu Cymraeg rai wythnosau yn ôl am fod fy ngŵr yn Gymro Cymraeg, a dw i eisiau medru cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg gydag e, a’i deulu, a gyda’r bobl sy’n byw yma yn Aberystwyth. ’Dyn ni wedi cael croeso mawr yma, ac mae’r ardal yn fendigedig. Fy uchelgais yw medru siarad yn rhugl i gael mwynhau bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Alex Tudur

Treuliodd y ddau y cyfnod clo yng Nghaerdydd gyda’r teulu, a chynhaliwyd eu priodas yn Rhydychen yn ystod mis Awst eleni, er iddyn nhw orfod newid y trefniadau’n sylweddol.

Yn ôl Alex, “Yr oedden ni’n drist nad oedd posib i ni ddathlu ein priodas fel yr oedden ni wedi dymuno yn wreiddiol, ond yn ddiolchgar iawn ein bod wedi gallu priodi ac wedi symud i Aberystwyth i ddechrau ar ein bywyd priodasol gyda’n gilydd. Doedd dim rhaid i ni newid y dyddiad na’r lleoliad ar gyfer y briodas, ond roedd yn rhaid i nifer o’n teulu a’n ffrindiau ni i wylio’r briodas ar ‘Zoom’. Roedd pawb yn garedig iawn, ac fe gawson ni ddiwrnod bythgofiadwy.”

Mae Alex yn mwynhau dysgu mewn dosbarth rhithiol am bedair awr bob dydd Mawrth. Meddai, “Dw i wrth fy modd gyda’r dosbarthiadau. Dwi’n mwynhau medru dod i adnabod dysgwyr eraill a chael dysgu mwy amdanyn nhw ac am y rhesymau y maen nhw’n dysgu Cymraeg. ’Dyn ni’n medru cefnogi ein gilydd, ac yn cael ein rhannu i grwpiau bach i fedru sgwrsio ac ymarfer gyda’n gilydd. Mae’r gwersi yn hwyl, ac mae yna awyrgylch anffurfiol lle mae pawb yn gallu ymlacio. Mae fy nhiwtor, Zoë, yn gyfeillgar iawn.”

Mae cynnal ein cyrsiau yn rhithiol wedi bod yn llwyddiannus yn ystod y misoedd diwethaf. Er nad ’dyn ni’n medru cyfarfod mewn dosbarthiadau gyda’n gilydd, ’dyn ni’n sicrhau bod cefnogaeth a chyngor ar gael i’n dysgwyr ni bob amser. ’Dyn ni’n dymuno’n dda iawn i Alex ar ei thaith i ddysgu’r iaith, ac yn edrych ymlaen at groesawu mwy o ddysgwyr newydd i’n plith ar gyrsiau rhithiol eraill sy’n dechrau’n fuan.

Cêt Morgan, Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gâr
Alex a Gwilym

Gallwch fynd i dysgucymraeg.cymru am fwy o wybodaeth neu i gofrestru ar gwrs.