Mae dysgwr gafodd ei fagu yng ngogledd Cymru, ond sy bellach yn byw yn Lloegr, wedi dechrau dysgu Cymraeg er mwyn dod i wybod mwy am hanes a diwylliant Cymru, a defnyddio’r iaith yn ystod gemau pêl-droed.
Mae Andy Woolley, sy’n byw yn Tetbury, Swydd Gaerloyw, yn dychwelyd yn gyson i’w ardal enedigol, Bae Colwyn, er mwyn ymarfer ei Gymraeg, a chefnogi ei hoff dîm pêl-droed, Clwb Pêl-droed Bae Colwyn.
Eglura Andy:
‘‘Ro’n i’n teimlo’n drist bod bron dim Cymraeg yn yr ysgol pan oeddwn i’n blentyn yn y 50au a’r 60au. Roedd fy nhaid yn siarad Cymraeg ond bu farw pan o’n i’n 10 oed. Dw i’n dŵad yn ôl mor aml â phosib i wylio Bae Colwyn yn chwarae adre ac i ddefnyddio fy Nghymraeg.’’
Dechreuodd Andy ddysgu Cymraeg yn 2019, ac mae wedi defnyddio Duolingo, SaySomethingInWelsh ac wedi dilyn cyrsiau preswyl yn Nant Gwrtheyrn. Mae bellach yn dysgu Cymraeg ar lefel Canolradd gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain sy’n cael ei gynnal gan Goleg Cambria a chwmni Popeth Cymraeg ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae Andy yn mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol yn flynyddol, a’r uchafbwynt eleni oedd sgwrsio gyda Dafydd Iwan ar y maes yn Nhregaron. Mae Andy yn gobeithio teithio i Batagonia yn y dyfodol agos er mwyn mynychu Eisteddfod Y Wladfa.
Meddai Andy:
‘‘Dw i wedi bod i Batagonia sawl gwaith o’r blaen, ond gan fy mod i’n gallu siarad Cymraeg rŵan, dw i isio mynd nôl yno. Dw i isio mynd i Eisteddfod Y Wladfa, a chyfarfod pobl yn y gymuned er mwyn siarad Cymraeg efo nhw, a dysgu mwy am eu bywydau.’’
Mae Andy wrth ei fodd yn dysgu Cymraeg ac o’r farn fod pêl-droed wedi chwarae rhan allweddol yn ei daith i ddysgu’r iaith.
Yn ôl Andy:
‘‘Dw i’n darllen llawer am dîm pêl-droed Cymru, gan gynnwys ar Twitter, gwefan yr FAW, mewn llyfrau ayyb, ac mae hynny wedi bod o gymorth mawr. Dw i hefyd yn defnyddio’r Gymraeg wrth wylio gemau Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Felly diolch i bêl-droed, dw i’n defnyddio llawer o Gymraeg ac yn mwynhau pob eiliad.’’