Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Y Mudiad a'r Ganolfan

Y Mudiad a'r Ganolfan

Mwy o gyfleodd i fwynhau’r Gymraeg, wrth i’r cydweithio gryfhau rhwng Mudiad Meithrin a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Bydd Memorandwm Dealltwriaeth rhwng Mudiad Meithrin a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn adeiladu ar y bartneriaeth sydd eisoes yn bodoli rhwng y ddau sefydliad, wrth iddyn nhw gefnogi polisi Cymraeg 2050 y Llywodraeth.

Mae’r sefydliadau yn barod yn cydweithio ar brosiectau megis ‘Clwb Cwtsh’ sy’n cynnig cyfleoedd anffurfiol i rieni a gofalwyr plant bach i ddechrau dysgu Cymraeg, a chynllun ‘Camau’, sy’n rhoi hyfforddiant dysgu Cymraeg i ymarferwyr blynyddoedd cynnar.

Bydd y Memorandwm newydd yn ffurfioli’r cydweithio, gan greu cyfleoedd pellach i gaffael a throsglwyddo’r Gymraeg, ac i gefnogi plant, teuluoedd a gofalwyr i ddysgu a mwynhau’r Gymraeg.

Bydd cyfathrebu effeithiol yn chwarae rôl bwysig, gyda chyfarfodydd a diweddariadau rheolaidd er mwyn rhannu profiadau ac arbenigedd a datblygu syniadau i ddenu cynulleidfaoedd newydd at y Gymraeg.

Bydd ymgynghori ar y cyd â’r cyhoedd, er mwyn adnabod yr anghenion dysgu Cymraeg.  Bydd y ddau sefydliad hefyd yn cydweithio ar ymgyrchoedd, er mwyn manteisio ar eu rhwydweithiau gwahanol.

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Mae Mudiad Meithrin a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn rhannu’r un ymrwymiad i gynnig cyfleoedd i ddysgu, defnyddio, a mwynhau’r Gymraeg. 

“Trwy ffurfioli’r bartneriaeth rhyngom, gallwn gefnogi llwybr iaith ‘o’r crud i’r bedd’, gan gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.”

Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Mae creu partneriaethau grymus yn rhan bwysig o rôl y Ganolfan, wrth i ni sicrhau cyfleoedd i bobl ddysgu a defnyddio’r Gymraeg gyda’u teuluoedd, yn eu cymunedau, ac yn y gwaith.

“Mae’r Memorandwm Dealltwriaeth yma yn adeiladu ar y cydweithio llwyddiannus sydd eisoes wedi digwydd rhwng y Ganolfan a’r Mudiad, ac edrychwn ymlaen at gefnogi’n gilydd fwyfwy er mwyn hwyluso taith iaith pob unigolyn yng Nghymru.”

Cyhelir sgwrs gyhoeddus i drafod y cydweithio gyda Gwenllïan Lansdown Davies a Dona Lewis, am 3.00pm Dydd Llun, 7 Awst, ym Mhabell y ‘Big Top’, Maes D, ar faes Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.