Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Partneriaeth Mudiad Meithrin

Partneriaeth Mudiad Meithrin
Mudiad Meithrin

Denu teuluoedd i ddysgu’r Gymraeg yw nod cynllun cydweithio newydd

Denu mwy o deuluoedd at y Gymraeg yw nod cynllun cydweithio newydd rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Mudiad Meithrin.

Bydd cynyddu cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio a mwynhau’r iaith hefyd yn rhan o’r cynllun.

Mae 20,000 o blant ledled Cymru yn mynychu cylchoedd a grwpiau Mudiad Meithrin, gyda’r mwyafrif yn dod o deuluoedd di-Gymraeg.  Trwy’r cynllun, bydd modd targedu’r teuluoedd hynny gyda gwybodaeth am sut i fynd ati i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.

Fel rhan o’r cynllun, mae rhaglen beilot wedi’i chynnal yn Fflint a Wrecsam, lle cynhaliwyd cyrsiau Cymraeg i’r Teulu, gyda swyddogion Mudiad Meithrin yn darparu adloniant addas ar gyfer y plant bach oedd yn mynychu’r sesiynau gyda’u rhieni.

Yn ystod mis Mehefin, bydd presenoldeb gan y Ganolfan yng Ngŵyl Dewin a Doti Mudiad Meithrin, sef taith hyrwyddo o amgylch Cymru y mae disgwyl i 8,000 o deuluoedd ei mynychu.

Ar faes Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont yr Ogwr, Taf ac Elai, bydd sesiynau dysgu Cymraeg yn cael eu cynnal ar stondin y Mudiad gan Brifysgol De Cymru, darparwr y Ganolfan yn yr ardal.  Bydd cyfeiriadau at ddysgu Cymraeg hefyd yn rhan o sgript pasiant y plant poblogaidd Mudiad Meithrin.

Dyma’r ddiweddaraf mewn cyfres o bartneriaethau a luniwyd rhwng y Ganolfan a sefydliadau cenedlaethol megis Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru ac S4C.

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Un o brif amcanion y Ganolfan yw sefydlu partneriaethau cyffrous ac arloesol fydd yn arwain at gynnydd yn y niferoedd sy’n dysgu ac yn defnyddio’r Gymraeg, ac mae’r bartneriaeth ddiweddaraf hon gyda Mudiad Meithrin yn enghraifft o hynny ar waith.

“’Dyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio gyda Mudiad Meithrin er mwyn sicrhau bod rhieni a theuluoedd ledled Cymru yn cael cyfleoedd i ddysgu, i siarad ac i fwynhau’r Gymraeg.”

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Rydym yn gyffrous iawn am y bartneriaeth newydd sydd ar waith rhwng Mudiad Meithrin a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Bydd y cydweithio yma’n ffordd i hyrwyddo cyrsiau Cymraeg i rieni di-Gymraeg y plant yn ein darpariaethau. Dyma un elfen bwysig os ydym am gyrraedd y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050.”

Diwedd

30 Mai 2017

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â hannah.thomas@dysgucymraeg.cymru neu hawys.roberts@dysgucymraeg.cymru