Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Partneriaeth newydd gydag Undeb Rygbi Cymru

Partneriaeth newydd gydag Undeb Rygbi Cymru

Heddiw, cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru gyfres o fentrau newydd cyffrous i wella’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y sefydliad a dyfarnwyd statws ‘Cynnig Cymraeg’ iddo gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ar sail hynny.

Ar faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, cyhoeddodd Prif Weithredwr dros dro URC, Nigel Walker, Bolisi Iaith Gymraeg diwygiedig yr Undeb, sy’n ymrwymo i gynnydd sylweddol yn y ddarpariaeth a gynigir i’r cyhoedd.

Bydd prif gyhoeddiadau’r Undeb, gan gynnwys y prif ddatganiadau i’r wasg, adroddiadau gemau rhyngwladol a straeon newyddion mawr eraill ar gael yn Gymraeg a Saesneg a bydd cynnydd yn nefnydd y Gymraeg yn fewnol hefyd yn cael ei argymell a’i annog.

Mae ymrwymiad cadarn i arwyddion newydd a pherthnasol o amgylch Stadiwm Principality fod yn ddwyieithog a bydd cyhoeddiadau a chyfathrebiadau eraill a gynhyrchir gan URC, gan gynnwys rhaglenni gemau rhyngwladol ac amrywiaeth o ddarpariaeth ar-lein, yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.

Cynllun Iaith Gymraeg Undeb Rygbi Cymru 2023

Dywedodd Nigel Walker Prif Weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru: “Mae ystyried a hyrwyddo’r Gymraeg ym mhopeth a gynigiwn i’n cyhoedd yn ymrwymiad dyddiol i sefydliad sydd wrth galon ein cenedl.

“Byddwn yn gwella ein darpariaeth a’n gwasanaethau ac yn croesawu’r cyfleoedd newydd y bydd hyrwyddo’r Gymraeg yn eu cynnig i ni a’n cefnogwyr.”

Cafodd ymrwymiad URC i wella ei ddarpariaeth Gymraeg ei gydnabod yn ffurfiol yn lansiad y polisi newydd heddiw gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, gan iddo dderbyn statws ‘Cynnig Cymraeg’.

Mae’r ‘Cynnig Cymraeg’ yn gydnabyddiaeth gan y Comisiynydd a roddir i sefydliadau sydd â chynllun cryf sydd wedi ymrwymo i wella eu hymgysylltiad â’r cyhoedd drwy ddangos pa mor falch ydyn nhw o gynnig gwasanaethau yn Gymraeg.

Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg: “Hoffwn alluogi mwy o bobl i ddefnyddio’u Cymraeg yn eu bywydau bob dydd. Er mwyn sicrhau hynny mae angen i’r Gymraeg gael ei chlywed yn naturiol ymhobman, boed hynny yn gymunedol, yn y maes celfyddydol ac wrth gwrs yn y byd chwaraeon.

“Mae Undeb Rygbi Cymru yn chwarae rhan fawr ym mywyd Cymru – ac rwy’n croesawu’n fawr yr ymrwymiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw i’r Gymraeg.

“Rwy’n arbennig o falch o allu rhoi cymeradwyaeth i’w Cynnig Cymraeg, ac edrychaf ymlaen at gydweithio’n agos gyda’r Undeb wrth i’w cynlluniau gael eu datblygu.”

Mae Undeb Rygbi Cymru hefyd wedi cadarnhau y bydd yn gweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu ystod o hyfforddiant Dysgu Cymraeg i’w staff.

Bydd y Ganolfan Genedlaethol yn darparu cyrsiau wedi’u teilwra, dan arweiniad tiwtor, i dros 100 o aelodau staff sydd wedi dweud eu bod nhw eisiau dysgu’r iaith neu gryfhau eu sgiliau Cymraeg. Bydd hyfforddiant ar wahanol lefelau dysgu, o ddechreuwyr i godi hyder, a bydd modd i staff gael mynediad at dros 1,500 o adnoddau dysgu digidol rhad ac am ddim a ddatblygwyd gan y Ganolfan.

Bydd sesiwn flasu rad ac am ddim, ar thema rygbi, yn cael ei chynnal yn rhithiol gan y Ganolfan Genedlaethol ar 6 Medi, fel rhan o’r fenter newydd. Mae’r sesiwn yn agored i bawb ac mae mwy o fanylion ar wefan y Ganolfan, dysgucymraeg.cymru

Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae’r Ganolfan Genedlaethol yn falch o weithio gydag Undeb Rygbi Cymru i greu cyfleoedd newydd i bobl ddysgu a mwynhau’r Gymraeg yn ystod y cyfnod yn arwain at Gwpan Rygbi’r Byd, a thu hwnt.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd, ac mae croeso i bawb ddysgu’r iaith gyda ni.

“Byddwn yn datblygu rhaglen benodol o hyfforddiant i gefnogi dysgwyr o’r gymuned rygbi, a dan ni’n edrych ymlaen hefyd at gefnogi tîm rygbi Cymru dros y misoedd nesaf.”

Llun: Nigel Walker, Prif Weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru, Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Phennaeth Rygbi Merched Cymru, Ioan Cunningham.