Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Pedair merch yn cyrraedd y brig yn Nhlws Coffa Basil Davies eleni

Llun 1 basil davies
Llun basil davies 2

Roedd tair ohonynt yn ddysgwyr gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd ar ran y Ganolfan Genedlaethol.  Llwyddodd Lizzie Hobbs i gipio’r wobr ar lefel Sylfaen, Erin Pyle ar lefel Canolradd ac Elisabeth Haljas ar lefel Uwch.  Y bedwaredd i dderbyn y tlws oedd Stephanie Ellis-Williams, sy’n astudio gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Bangor ar ran y Ganolfan, ac fe gipiodd hi’r wobr hefyd ar lefel Canolradd.

Mae’r tlws yn cael ei roi er cof am y diweddar Basil Davies.  Nôl yn y 70au, roedd Basil Davies yn dysgu ar gwrs dwys i oedolion yn ardal y Barri, Bro Morgannwg, ac un o’i brif amcanion ar y cwrs hwnnw oedd ceisio profi ei bod yn bosibl i bobl o bob cefndir ddysgu’r Gymraeg.  Fe lwyddodd i wneud hynny, yn bennaf o ganlyniad i’w allu, ei ymroddiad a’i frwdfrydedd heintus.

Aeth ymlaen wedyn i fod yn Brif Ddarlithydd y Gymraeg ym Mhrifysgol Morgannwg, yn brif arholwr ‘Defnyddio’r Gymraeg’ ac yn gadeirydd gweithgor ‘Arholiadau Cymraeg i oedolion’ CBAC.

Wrth dderbyn y tlws, dywedodd un o’r enillwyr, Stephanie Ellis-Williams;  “Dw i’n dod o Ffrainc yn wreiddiol ac mi wnes i gyrraedd Cymru yn 1995.  Dw i eisiau dysgu Cymraeg oherwydd dw i’n meddwl ei fod yn bwysig iawn trio deall iaith a diwylliant y wlad wyt ti’n byw ynddi.

“Y peth gorau am ddysgu Cymraeg ydy cyfarfod pobl efo’r un diddordeb â fi, ond efo bywydau mor wahanol.  Mae’r wobr yn arbennig iawn achos mae’n cydnabod ymdrech, ond hefyd dw i’n ei gweld fel arwydd o ddiolch i mi am ddysgu siarad Cymraeg.  Chwarae teg i chi yng Nghymru, da chi’n gwybod sut i ddathlu cyflawniad a sut i wneud yn siŵr fod pobl o dramor yn cael croeso!”

Yr enillwyr eraill oedd Elisabeth Haljas, sy’n wreiddiol o Estonia ac a symudodd i’r Deyrnas Unedig yn 2018 i astudio i fod yn ddietegydd (stori bellach am Elisabeth i’w gweld yma); Lizzie Hobbs, sy’n wreiddiol o Fangor, ac a ymunodd gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd yn Ionawr 2021 i helpu ei gyrfa; ac Erin Pyle, sy’n wreiddiol o Ddyfnaint yn ne orllewin Lloegr, ac a ddywedodd fod dysgu Cymraeg wedi agor y drws iddi i'r holl ddiwylliant cyfoethog Cymraeg sydd yng Nghymru.

Ychwanegodd Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu y Canolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol;  “Dw i’n credu y byddai Basil Davies wedi bod yn hynod falch o’r pedair ddaeth i’r brig eleni.  Mae eu cefndiroedd yn wahanol iawn  - un o Ffrainc, un o Estonia, un o Loegr ac un o Gymru – ond mae’r pedair wedi cael yr un croeso yn ein gwersi Dysgu Cymraeg ac wedi cael yr un cyfleoedd.

“Roedd Basil yn deall pwysigrwydd amrywiaeth diwylliannol a chroesawu pawb i’r gorlan i ddysgu Cymraeg.  Mae hyn yr un mor wir gennym ni heddiw, ac rydym yn hynod o falch o’r amrywiaeth o bobl sy’n ymuno gyda ni ar y daith i ddysgu Cymraeg.”