Mae perchennog siop gelfi o’r Coed Duon wedi syrthio mewn cariad â’r iaith Gymraeg ac yn manteisio ar bob cyfle i siarad yr iaith ar ôl cofrestru ar gwrs i ddechreuwyr y llynedd.
Mae Huw Edwards, perchennog Tidal’s Store Limited ar stryd fawr y Coed Duon yn mynd i ddosbarth gyda Dysgu Cymraeg Gwent, sy’n cael ei redeg gan Goleg Gwent ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’r dosbarth yn cael ei gynnal gyda’r tiwtor, Beth Harrington, yn Amgueddfa Bywyd Gwledig, Brynbuga, am ddwy awr bob wythnos ac mae Huw yn gobeithio dilyn cwrs pellach flwyddyn nesaf.
Cafodd Huw ei eni a’i fagu yn y Coed Duon ond treuliodd dros 15 mlynedd yn byw gyda’i wraig, Zoe yn Berkshire, lle bu’n gweithio yn y diwydiant lletygarwch. Rhieni Huw oedd perchnogion Tidal’s Store ac wedi iddynt benderfynu ymddeol, symudodd Huw a Zoe i Gymru er mwyn rhedeg y busnes a pharhau gyda’r traddodiad teuluol o werthu dodrefn.
Mi wnaeth aelodau o deulu Huw sy’n siarad Cymraeg yn rhugl, gan gynnwys ei nith, nai, brawd-yng-nghyfraith a’i fodryb, sef Bardd Cenedlaethol Cymru gynt, Gillian Clarke, ddwyn perswâd arno i fynychu gwersi. Roedd Huw hefyd yn awyddus i siarad Cymraeg â chwsmeriaid y siop.
Mae gweithio yn y siop yn rhoi cyfle i Huw ddefnyddio’i Gymraeg ac mae Huw wedi magu hyder ers cychwyn y cwrs ac mae wrth ei fodd yn rhoi cyfle i’w gwsmeriaid siarad Cymraeg.
Ers dychwelyd i Gymru wedi cyfnod o fyw i ffwrdd, mae Huw hefyd wedi sylwi bod agweddau pobl tuag at y Gymraeg wedi newid yn yr ardal:
‘‘Pan ro’n i’n ifanc, doedd y Gymraeg ddim mor amlwg ag y mae yn ne ddwyrain Cymru heddiw ac mi wnes i benderfynu astudio Ffrangeg yn hytrach na Chymraeg wrth wneud fy newisiadau TGAU. Yn sgil y twf sydd wedi bod mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal, mae’r Gymraeg i’w chlywed mwy fwy o amgylch y Coed Duon.’’
Mae mynd i ddosbarthiadau Cymraeg yn ogystal â cherdded Bannau Brycheiniog yn ei amser hamdden yn rhoi cyfle i Huw ymlacio, er nad yw dysgu’r iaith wedi bod yn rhwydd bob amser:
‘‘Y peth anoddaf yw’r treigladau! Meddal, trwynol a lleisiol yn ogystal ag amser i ymarfer wrth gwrs. Ond mae cymorth y tiwtor, dysgwyr eraill a defnyddio apiau Cymraeg y tu allan i’r dosbarth wedi bod yn werthfawr iawn. Yn ychwanegol, mae cyrsiau adolygu un dydd ar gael felly hoffwn annog unrhyw un sy’n dymuno dysgu’r iaith i roi cynnig arni, ymarfer cymaint â phosib a manteisio ar yr holl gymorth ychwanegol sydd ar gael.’’