Mae staff Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cofleidio cynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol eleni a’r gobaith yw y bydd mwy nag erioed yn defnyddio’r Gymraeg wrth eu gwaith ar gampysau’r brifysgol yn sgil y cynllun.
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n gweinyddu’r cynllun mewn Addysg Uwch ar ran y Ganolfan mewn wyth prifysgol. Hyd yma, mae dros 400 o staff Addysg Uwch yn rhan o’r cynllun, gan gynnwys 80 aelod o staff Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Ymhlith yr 80 hynny, mae’r Dirprwy Is-ganghellor Ymgysylltu â Myfyrwyr, Dr Jacqui Boddington. Mae Dr Boddington wedi cofrestru ar y cynllun, sy’n cynnwys cyrsiau ar-lein, cyrsiau dysgu dwys, cyrsiau preswyl a gwasanaethau cefnogi i’r cyflogwyr. Mae hi’n mynychu dosbarth ar gyfer dechreuwyr ar gampws Llandaf gyda nifer o ddysgwyr eraill.
Mae Is-ganghellor y brifysgol, Yr Athro Cara Aitchison hefyd wedi derbyn gwersi un-i-un yn y Gymraeg er mwyn gwella ei sgiliau.
Yn ôl Is-ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Yr Athro Cara Aitchison:
“Mae gan yr iaith Gymraeg le canolog yn strategaeth hir dymor y brifysgol. ’Dyn ni wedi ymrwymo i gynyddu ein darpariaeth Gymraeg yn sylweddol dros y blynyddoedd nesaf ac i wella profiad ein myfyrwyr iaith Gymraeg ar y ddau gampws, yn Llandaf a Chyncoed. Mae’r cynllun Cymraeg Gwaith yn hollbwysig i wireddu’r weledigaeth hon wrth i ni fynd ati i gynyddu’r nifer o staff academaidd a gweinyddol sy’n siarad Cymraeg. Dw i wrth fy modd bod cymaint o gydweithwyr wedi manteisio ar y cynllun eleni a dw i’n dymuno pob lwc iddyn nhw gyda’u hastudiaethau.’’
Mae’r brifysgol wedi ymestyn y cynllun i gynnwys elfennau ychwanegol er mwyn cryfhau ymhellach sgiliau iaith Gymraeg y sefydliad.
Caiff gweithgareddau anffurfiol eu cynnal, gan gynnwys Clwb Coffi a Chlonc, Clwb Cymraeg Diwylliannol, Clwb Gîcs Gramadeg, Grŵp Shwmae, Cynllun Cyfaill a chystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.
Yn ychwanegol, rhoddir her i bob dysgwr gwblhau Prosiect Personol Cymraeg Gwaith 10 awr o hyd er mwyn cryfhau eu defnydd o’r iaith.
Mae’r dysgwyr sydd wedi cofrestru ar y cynllun yn ddarlithwyr a staff adrannau academaidd a gweinyddol y brifysgol, gan gynnwys Cyllid, Gyrfaoedd, y Llyfrgell, Gwasanaethau Cynadleddau, Gwasanaethau Myfyrwyr, Neuaddau Preswyl, y Gofrestrfa a’r Derbynfeydd. Mae rhai ohonynt yn dod o Gymru ond nifer yn dod o Loegr, Yr Alban, Iwerddon, Groeg, Awstria, Sbaen a’r Almaen.
Mae Margo Schmidt, Tiwtor Cerameg gydag Ysgol Agored Celf Caerdydd wedi byw mewn gwahanol wledydd ar hyd y blynyddoedd ond mae hanner ei theulu yn hanu o Gymru a’r hanner arall o’r Almaen. Mae hi’n dilyn cwrs Cymraeg Sylfaen 2 ar gampws Llandaf:
“Dw i’n gweithio ym myd y celfyddydau, ac i werthfawrogi celf Gymreig yn gyflawn, mae deall yr iaith Gymraeg yn hanfodol. Gyda fy Nghymraeg sylfaenol, ro’n i’n hapus iawn i gyfrannu at gyfarfodydd pwyllgor Celfyddydau Gweledol Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Dw i’n dysgu llawer o bobl i weithio gyda chlai, a dw i eisiau gallu gwneud hyn yn y Gymraeg. Dw i eisiau helpu myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg i deimlo’n hyderus wrth ddod i astudio yn Ysgol Agored Celf Caerdydd.’’
Fel rhan o’r cynllun Cymraeg Gwaith, cynigir cyrsiau preswyl i ddysgwyr sydd wedi dysgu hyd at lefel Canolradd, mewn pedwar lleoliad ar draws Cymru. Bydd rhai o ddysgwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn mynychu un o’r cyrsiau yma sydd yn canolbwyntio ar fagu hyder a chryfhau sgiliau ieithyddol yn Nant Gwrtheyrn, y ganolfan iaith arbenigol ym Mhen Llŷn.
Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“’Dyn ni’n falch iawn fod y cynllun Cymraeg Gwaith wedi ennyn y fath ymateb ymhlith staff Prifysgol Metropolitan Caerdydd a ’dyn ni’n dymuno’r gorau i’r dysgwyr sydd wedi cofrestru ar y cynllun eleni. Dw i’n siŵr y gwnaiff y cynllun gryfhau’r gymuned Gymraeg sy’n bodoli o fewn y brifysgol a gwneud gwahaniaeth i hyder y staff. Dw i’n ffyddiog y bydd modd i’r dysgwyr roi eu sgiliau newydd ar waith a chynnig gwasanaeth dwyieithog i’r myfyrwyr ar ôl cwblhau’r cynllun.”
Disgrifiad llun
Margo Shmidt, Tiwtor Cerameg gydag Ysgol Agored Celf Caerdydd gyda rhai o'i myfyrwyr.