Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cofleidio’r Gymraeg

Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cofleidio’r Gymraeg

Mae staff Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cofleidio cynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol eleni a’r gobaith yw y bydd mwy nag erioed yn defnyddio’r Gymraeg wrth eu gwaith ar gampysau’r brifysgol yn sgil y cynllun.

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n gweinyddu’r cynllun mewn Addysg Uwch ar ran y Ganolfan mewn wyth prifysgol.  Hyd yma, mae dros 400 o staff Addysg Uwch yn rhan o’r cynllun, gan gynnwys 80 aelod o staff Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Ymhlith yr 80 hynny, mae’r Dirprwy Is-ganghellor Ymgysylltu â Myfyrwyr, Dr Jacqui Boddington.  Mae Dr Boddington wedi cofrestru ar y cynllun, sy’n cynnwys cyrsiau ar-lein, cyrsiau dysgu dwys, cyrsiau preswyl a gwasanaethau cefnogi i’r cyflogwyr.  Mae hi’n mynychu dosbarth ar gyfer dechreuwyr ar gampws Llandaf gyda nifer o ddysgwyr eraill.

Mae Is-ganghellor y brifysgol, Yr Athro Cara Aitchison hefyd wedi derbyn gwersi un-i-un yn y Gymraeg er mwyn gwella ei sgiliau.

Yn ôl Is-ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Yr Athro Cara Aitchison:

“Mae gan yr iaith Gymraeg le canolog yn strategaeth hir dymor y brifysgol.  ’Dyn ni wedi ymrwymo i gynyddu ein darpariaeth Gymraeg yn sylweddol dros y blynyddoedd nesaf ac i wella profiad ein myfyrwyr iaith Gymraeg ar y ddau gampws, yn Llandaf a Chyncoed.  Mae’r cynllun Cymraeg Gwaith yn hollbwysig i wireddu’r weledigaeth hon wrth i ni fynd ati i gynyddu’r nifer o staff academaidd a gweinyddol sy’n siarad Cymraeg.  Dw i wrth fy modd bod cymaint o gydweithwyr wedi manteisio ar y cynllun eleni a dw i’n dymuno pob lwc iddyn nhw gyda’u hastudiaethau.’’

Mae’r brifysgol wedi ymestyn y cynllun i gynnwys elfennau ychwanegol er mwyn cryfhau ymhellach sgiliau iaith Gymraeg y sefydliad.

Caiff gweithgareddau anffurfiol eu cynnal, gan gynnwys Clwb Coffi a Chlonc, Clwb Cymraeg Diwylliannol, Clwb Gîcs Gramadeg, Grŵp Shwmae, Cynllun Cyfaill a chystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.

Yn ychwanegol, rhoddir her i bob dysgwr gwblhau Prosiect Personol Cymraeg Gwaith 10 awr o hyd er mwyn cryfhau eu defnydd o’r iaith.

Mae’r dysgwyr sydd wedi cofrestru ar y cynllun yn ddarlithwyr a staff adrannau academaidd a gweinyddol y brifysgol, gan gynnwys Cyllid, Gyrfaoedd, y Llyfrgell, Gwasanaethau Cynadleddau, Gwasanaethau Myfyrwyr, Neuaddau Preswyl, y Gofrestrfa a’r Derbynfeydd. Mae rhai ohonynt yn dod o Gymru ond nifer yn dod o Loegr, Yr Alban, Iwerddon, Groeg, Awstria, Sbaen a’r Almaen.

Mae Margo Schmidt, Tiwtor Cerameg gydag Ysgol Agored Celf Caerdydd wedi byw mewn gwahanol wledydd ar hyd y blynyddoedd ond mae hanner ei theulu yn hanu o Gymru a’r hanner arall o’r Almaen.  Mae hi’n dilyn cwrs Cymraeg Sylfaen 2 ar gampws Llandaf:

“Dw i’n gweithio ym myd y celfyddydau, ac i werthfawrogi celf Gymreig yn gyflawn, mae deall yr iaith Gymraeg yn hanfodol.  Gyda fy Nghymraeg sylfaenol, ro’n i’n hapus iawn i gyfrannu at gyfarfodydd pwyllgor Celfyddydau Gweledol Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.  Dw i’n dysgu llawer o bobl i weithio gyda chlai, a dw i eisiau gallu gwneud hyn yn y Gymraeg.  Dw i eisiau helpu myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg i deimlo’n hyderus wrth ddod i astudio yn Ysgol Agored Celf Caerdydd.’’

Fel rhan o’r cynllun Cymraeg Gwaith, cynigir cyrsiau preswyl i ddysgwyr sydd wedi dysgu hyd at lefel Canolradd, mewn pedwar lleoliad ar draws Cymru.  Bydd rhai o ddysgwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn mynychu un o’r cyrsiau yma sydd yn canolbwyntio ar fagu hyder a chryfhau sgiliau ieithyddol yn Nant Gwrtheyrn, y ganolfan iaith arbenigol ym Mhen Llŷn.

Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“’Dyn ni’n falch iawn fod y cynllun Cymraeg Gwaith wedi ennyn y fath ymateb ymhlith staff Prifysgol Metropolitan Caerdydd a ’dyn ni’n dymuno’r gorau i’r dysgwyr sydd wedi cofrestru ar y cynllun eleni.  Dw i’n siŵr y gwnaiff y cynllun gryfhau’r gymuned Gymraeg sy’n bodoli o fewn y brifysgol a gwneud gwahaniaeth i hyder y staff.  Dw i’n ffyddiog y bydd modd i’r dysgwyr roi eu sgiliau newydd ar waith a chynnig gwasanaeth dwyieithog i’r myfyrwyr ar ôl cwblhau’r cynllun.”

Disgrifiad llun

Margo Shmidt, Tiwtor Cerameg gydag Ysgol Agored Celf Caerdydd gyda rhai o'i myfyrwyr.