Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyflwynwyr Radio Cymru yn cefnogi dysgwyr fel rhan o gynllun cydweithio newydd

Cyflwynwyr Radio Cymru yn cefnogi dysgwyr  fel rhan o gynllun cydweithio newydd

Mae rhai o gyflwynwyr mwyaf adnabyddus BBC Radio Cymru wedi dangos eu cefnogaeth i ddysgwyr y Gymraeg drwy recordio negeseuon arbennig ar gyfer y wefan i ddysgwyr, dysgucymraeg.cymru

Mae’r clipiau sain, a recordiwyd gan Aled Hughes, Shân Cothi, Tommo, John Hardy a Geraint Lloyd yn rhan o gynllun cydweithio newydd rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, y corff sy’n gyfrifol am y maes Cymraeg i Oedolion, a BBC Radio Cymru. 

Fel rhan o’r cynllun, bydd deunydd addas gan Radio Cymru yn cael ei ddefnyddio mewn cyrsiau Cymraeg fel bod dysgwyr yn cael clywed geirfa newydd, eang.  Bydd y Ganolfan Genedlaethol hefyd yn annog ei dysgwyr i ddatblygu eu hiaith trwy wrando ar Radio Cymru’n rheolaidd.

Mae’r clipiau sain ar gael ar lyfrgell adnoddau digidol agored i bawb, sydd wedi’i chreu gan y Ganolfan Genedlaethol ar ei gwefan, dysgucymraeg.cymru  Mae’r adnoddau newydd yn cyd-fynd â chyrsiau lefel Mynediad, sydd ar gyfer dechreuwyr.

Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

Mae creu cyfleoedd i ddysgwyr fwynhau siarad ac ymarfer y Gymraeg yn rhan bwysig o waith y Ganolfan Genedlaethol. Mae’r bartneriaeth hon gyda Radio Cymru yn cyflwyno’r orsaf i gynulleidfa newydd ac mae gwrando ar y radio yn ffordd dda i’n dysgwyr ymarfer eu Cymraeg. Mae’n gyfle i ddysgwyr glywed yr eirfa’n cael ei defnyddio ac i ddefnyddio’r hyn maent wedi’i ddysgu yn y dosbarth.

Meddai Betsan Powys, Golygydd BBC Radio Cymru,

“Os yw Radio Cymru’n Llais Cymru, ry’n ni’n llais i bawb – a pha well ffordd o roi croeso cynnes i ddysgwyr alw heibio’r gwasanaeth na chynnig lleisiau’n cyflwynwyr i hybu’r dysgu yn y dosbarth?”