Ar Faes Eisteddfod yr Urdd heddiw (29 Mai, 2024) cyhoeddodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol Raglen Dysgu Cymraeg gynhwysfawr ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.
Mae’r rhaglen yn cynnig hyfforddiant amrywiol a hyblyg fel bod athrawon a chymorthyddion dosbarth yn gallu defnyddio mwy o’r Gymraeg yn y dosbarth.
Mae cyrsiau hunan-astudio ar-lein, cyfleoedd codi hyder, cyrsiau yn y gymuned a chyrsiau dwys yn rhan o’r cynnig – gyda’r nod yn y pen draw o gefnogi sgiliau Cymraeg plant ysgolion Cymru.
Yn ôl Cyfrifiad Blynyddol y Gweithlu Addysg (CBGY) 2023, mae 28,273 o athrawon yn gweithio mewn ysgolion yng Nghymru, gyda 33% ohonynt yn gallu siarad Cymraeg, a 26.5% ohonynt yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, neu gyda’r hyder i wneud hynny.
Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Dros y blynyddoedd diwethaf mae gwaith y Ganolfan wedi ymestyn i gynnwys hyfforddiant Dysgu Cymraeg ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed a’r gweithlu addysg – dwy gynulleidfa hollbwysig o ran gwireddu uchelgais Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
“Mae’r Ganolfan yn cefnogi Cynllun Datblygu Gweithlu Addysg y Llywodraeth, sy’n anelu at gynyddu nifer yr athrawon a’r cynorthwywyr sy’n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg ac addysgu’r Gymraeg, a ’dyn ni’n falch iawn o gyhoeddi’r rhaglen gynhwysfawr yma yn benodol ar gyfer y gweithlu addysg.”
Ychwanegodd Meinir Ebbsworth, Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan, sydd â chyfrifoldeb dros y cynnig Dysgu Cymraeg ar gyfer y gweithlu addysg: “Mae ein rhaglen newydd yn cynnig cyrsiau ar bob lefel – o ddechreuwyr i siaradwyr Cymraeg sydd eisiau magu hyder – ac mae wedi ei datblygu mewn modd hyblyg fel y gall athrawon astudio ar amser sy’n gyfleus iddyn nhw a’u hysgolion.
“Yn ogystal â dysgu Cymraeg neu gynyddu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg, bydd yr athrawon a’r cymorthyddion yn cael eu cyflwyno i ddulliau all eu helpu i addysgu’r Gymraeg i blant a phobl ifanc.”
Mae’r ddarpariaeth Dysgu Cymraeg ar gael am ddim i’r gweithlu addysg yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth am y gwahanol opsiynau sydd ar gael, dilynwch y ddolen nesaf: Cymraeg Gweithlu Addysg | Dysgu Cymraeg