Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Rhaglen Dysgu Cymraeg i gefnogi nod yr Urdd o gyrraedd cynulleidfaoedd newydd

Rhaglen Dysgu Cymraeg i gefnogi nod yr Urdd o gyrraedd cynulleidfaoedd newydd

Bydd rhaglen hyfforddiant Dysgu Cymraeg yn cael ei rhoi ar waith gyda’r Urdd, er mwyn cefnogi nod y mudiad o ddenu gweithlu amrywiol, ac o gysylltu ymhellach â chynulleidfaoedd newydd ar draws Cymru gyfan.

Bydd cefnogaeth tiwtor ymhlith yr hyfforddiant sy’n cael ei ddarparu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, fel rhan o bartneriaeth newydd rhwng y ddau sefydliad.

Bydd y tiwtor yn gweithio gyda’r Adran Chwaraeon, Prentisiaethau a’r Gwersylloedd, i ddarparu gwersi i aelodau staff sydd ddim yn siarad llawer o Gymraeg neu sy’n llai hyderus eu sgiliau Cymraeg. 

Bydd mynediad at adnoddau dysgu digidol y Ganolfan, a chyfleoedd maes o law i gefnogi staff ar draws y mudiad ac ym mhob rhan o Gymru gyda gwahanol hyfforddiant, yn ôl yr angen.           

Mae’r bartneriaeth yn dilyn llwyddiant cynllun peilot sydd wedi ei arwain gan Adran Chwaraeon yr Urdd ers Medi y llynedd hyd heddiw, i roi gwersi Cymraeg dyddiol i Nooh Ibrahim, Swyddog Chwaraeon Cymunedol Amrywiol cyntaf y mudiad.

Mae Nooh, cyn-ddisgbyl Ysgol Fitzalan, Caerdydd, bellach yn cynnal sesiynau chwaraeon a hyfforddiant arwain dwyieithog mewn cymunedau yn ne’r brifddinas, yn dilyn yr hyfforddiant Dysgu Cymraeg dwys.

Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd:  “Mae’r Urdd yn perthyn i bawb.  Mae gwasanaethu ein cynulleidfa graidd yn hollbwysig, a ’dyn i’n awyddus, hefyd, i estyn allan ymhellach at gynulleidfaoedd newydd, er mwyn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.

“Wrth i ni wneud hynny, mae’n bwysig ein bod ni’n denu aelodau staff o gefndiroedd ac ardaloedd gwahanol o Gymru, sydd o bosib ddim eto yn siarad Cymraeg yn hyderus.

“Yn dilyn ein cynllun peilot llwyddiannus, bydd y bartneriaeth gyda’r Ganolfan yn rhoi strwythur clir a chefnogaeth i unigolion oddi fewn ein gweithlu i gryfhau eu sgiliau Cymraeg, a ’dyn ni’n edrych ymlaen at roi’r drefn newydd ar waith.”

Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae’r Ganolfan yn gweithio’n agos gyda llu o sefydliadau a chwmnïau yng Nghymru, gan gynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru, i ddarparu hyfforddiant Dysgu Cymraeg hyblyg, sy’n ateb anghenion penodol.   

“Byddwn yn gweithio gyda’r Urdd i adnabod yr union anghenion o safbwynt hyfforddiant iaith, cyn darparu cynllun hyblyg sy’n cynnwys gwersi ar leoliad a gweithgareddau codi hyder.”