Mae rhaglenni newydd i ddysgwyr wedi dechrau ar S4C yn dilyn mewnbwn a chefnogaeth gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae rhaglen newyddion i ddysgwyr a rhaglenni hamdden. Anelir y rhaglenni hyn at ddysgwyr ar lefelau Canolradd ac Uwch.
Mae fideos a chynnwys digidol hefyd yn cael eu creu ar gyfer dysgwyr lefel Mynediad (dechreuwyr), ar gyfer gwylio ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Lansiwyd y rhaglenni newydd ym Mharti Nadolig Dysgu Cymraeg Gwent yn Sefydliad Glowyr Llanhiledd, ger Abertileri.
Yn y llun isod, o’r chwith i’r dde, mae Stephen Bale a Michelle Unsworth, sy'n dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent, Sioned Wyn Roberts, S4C, ac Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan.