Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Rhaglenni newydd ar gyfer dysgwyr ar S4C

Rhaglenni newydd ar gyfer dysgwyr ar S4C

Mae rhaglenni newydd i ddysgwyr wedi dechrau ar S4C yn dilyn mewnbwn a chefnogaeth gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae rhaglen newyddion i ddysgwyr a rhaglenni hamdden. Anelir y rhaglenni hyn at ddysgwyr ar lefelau Canolradd ac Uwch.

Mae fideos a chynnwys digidol hefyd yn cael eu creu ar gyfer dysgwyr lefel Mynediad (dechreuwyr), ar gyfer gwylio ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Lansiwyd y rhaglenni newydd ym Mharti Nadolig Dysgu Cymraeg Gwent yn Sefydliad Glowyr Llanhiledd, ger Abertileri.

Yn y llun isod, o’r chwith i’r dde, mae Stephen Bale a Michelle Unsworth, sy'n dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent, Sioned Wyn Roberts, S4C, ac Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan.

Group shot 2