Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn falch o gyhoeddi mai Rheon Tomos yw Cadeirydd newydd Bwrdd Ymgynghorol y Ganolfan. Bydd Rheon Tomos yn olynu’r Dr Haydn E Edwards fu yn y rôl am dair blynedd.
Cyfrifydd siartredig yw Rheon ac mae wedi gweithio mewn meysydd polisi a chyllid cyhoeddus ers blynyddoedd lawer. Yn ystod ei yrfa, mae wedi arbenigo ym maes addysg a bu’n aelod o fwrdd Awdurdod S4C, Estyn a Chymwysterau Cymru. Erbyn hyn, mae’n aelod o bwyllgorau Awdit Amgueddfa Cymru a Chomisiynydd yr Iaith Gymraeg yn ogystal â bod yn Ymddiriedolwr ac Is-Gadeirydd Urdd Gobaith Cymru.
Yn wreiddiol o Wynedd, astudiodd Rheon ym Mhrifysgol Bangor. Bu’n byw yng Nghaerfyrddin am gyfnod yn yr 1980au ond mae e a'r teulu bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd.
Gwaith Rheon ac aelodau eraill y Bwrdd Ymgynghorol fydd sicrhau bod y Ganolfan yn cyflawni ei hamcanion strategol o ran y sector Dysgu Cymraeg drwy weddnewid y ddarpariaeth i ddysgwyr. Mae’r Bwrdd hefyd yn cytuno ar dargedau cenedlaethol ar gyfer y maes.
Meddai Rheon Tomos: “Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at ymgymryd a’r rôl newydd hon yn y flwyddyn newydd. Bydd yn fraint gallu adeiladu ar weithgarwch presennol y Ganolfan a chefnogi dysgwyr i ddysgu’r iaith er mwyn cyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”
Mae’r Ganolfan hefyd yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â’r Bwrdd Ymgynghorol gan fod cyfnod rhai o’r aelodau presennol yn dod i ben. Byddai’r Ganolfan yn croesawu ceisiadau gan unigolion sy’n awyddus i hyrwyddo dysgu Cymraeg i oedolion neu sydd wedi dysgu’r Gymraeg.
Byddai angen i’r ymgeisydd fynychu tri chyfarfod y flwyddyn a’r dyddiad cau i ymgeisio yw dydd Gwener 11 Ionawr 2019. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.
Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“’Dyn ni’n edrych ymlaen at groesawu Rheon i’n plith ni yma yn y Ganolfan yn ogystal ag aelodau newydd i’r Bwrdd fydd yn ei gynorthwyo maes o law. Mae gan Rheon ddealltwriaeth o’r maes yn ogystal â phrofiad helaeth o gadeirio felly bydd y Ganolfan mewn dwylo saff wrth i ni wynebu’r cyfnod nesaf sydd o’n blaenau.
“Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr iawn i’r Dr Haydn E Edwards am ei waith fel Cadeirydd cyntaf y Bwrdd Ymgynghorol. Fe roddodd arweiniad a chyngor penigamp wrth lywio cyfnod cychwynnol y Ganolfan.”