Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Rhestr Fer

Rhestr Fer

Cyhoeddi rhestr fer Dysgwr yr Ŵyl AmGen.

Mae pum dysgwr Cymraeg wedi’u dewis i fod ar restr fer Dysgwr yr Ŵyl AmGen, cystadleuaeth sy’n cael ei chynnal ar y cyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol, BBC Radio Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 

Bydd y dysgwyr, sy’n gwneud ymdrech arbennig i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd, yn cymryd rhan yn yr Ŵyl AmGen, penwythnos hir o raglenni a chynnwys ar draws BBC Radio Cymru, BBC Radio Cymru 2 a BBC Cymru Fyw rhwng 30 Gorffennaf – 2 Awst. 

Dyma fwy o wybodaeth am y pum dysgwr:

Mathias Maurer

Daw Mathias o’r Almaen yn wreiddiol ac roedd yn gerddor proffesiynol cyn mynd yn athro ysgol gynradd.  Mae’n defnyddio’r Gymraeg yn hyderus yng nghartref y teulu yn y Barri, ac mae wedi gweithio’n ddiwyd i sicrhau bod yr iaith yn cael ei throsglwyddo i ddisgyblion mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg, gan greu adnoddau dysgu digidol cyfoes.

Jazz Langdon

Dysgwraig o Sir Benfro yw Jazz, sy wedi mynd ati’n ddiflino i ddysgu’r iaith dros y ddwy flynedd ddiwethaf.  Mae’n gydlynydd y Gymraeg yn ei gwaith fel athrawes ysgol.  Mae’n canu mewn côr ac yn cael boddhad mawr wrth ddeall ystyr y caneuon.  Mae hefyd wrth ei bodd yn cymdeithasu gyda’i chyd-gantorion yn Gymraeg.

Siân Sexton

Cafodd Siân ei magu ar aelwyd ddi-Gymraeg yn y Rhondda.  Ymserchodd yn y Gymraeg a’i dysgu i safon uchel.  Roedd yn benderfynol y byddai ei dau fab yn dysgu’r Gymraeg, ac erbyn hyn maen nhw’n rhugl hefyd. Mae hi’n berson prysur sy’n mwynhau amrywiaeth o ddiddordebau, gan gynnwys gweithgareddau Merched y Wawr, garddio a chadw gwenyn.

Elisabeth Haljas

O Estonia daw Elisabeth yn wreiddiol, a symudodd i Gaerdydd i astudio dieteteg.  Mae wedi bod yn dysgu Cymraeg ers bron dwy flynedd.  Fel rhan o’i chwrs, mae wedi creu fideos Cymraeg am fwyta’n iach.  Mae hefyd wedi trefnu cyfnod o brofiad gwaith yn Ysbyty Glan Clwyd achos bod hi eisiau gweithio a byw trwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae hi’n mwynhau gwirfoddoli yn Theatr y Sherman, Caerdydd, yn enwedig gyda chynyrchiadau Cymraeg.

Barry Lord

Cadw siop lyfrau yn Nhrefaldwyn a wna Barry.  Yn 2018 enillodd dlws coffa Basil Davies am y marciau uchaf mewn arholiad Dysgu Cymraeg lefel Sylfaen drwy Gymru.  Mae wrth ei fodd yn defnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd yn ei waith, ac yn mwynhau cymdeithasu yn y Gymraeg mewn clwb llyfrau wythnosol.

Lluniwyd y rhestr fer gan banel beirniadu sy’n cynnwys Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Aran Jones, cyd sylfaenydd SaySomethingInWelsh a Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Meddai Dona Lewis: “Mae’r pum dysgwr sy ar y rhestr fer wedi dysgu’r iaith i safon uchel, rhai ohonynt mewn ychydig o amser.  Maen nhw wedi cofleidio pob cyfle i ddefnyddio a mwynhau’r Gymraeg a dan ni’n eithriadol o falch ohonyn nhw.”

Bydd y pump yn cael eu cyfweld gan y gyflwynwraig, Shân Cothi, ar Radio Cymru ac yn dilyn y cyfweliadau, bydd y Panel Beirniadu yn dewis enillydd.  Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni arbennig ar Radio Cymru ar 4.30pm ar ddydd Sadwrn, 1 Awst.    

Diwedd

Mae’r Ŵyl AmGen yn rhan o’r Eisteddfod AmGen, sy’n cael ei chynnal yn lle’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni.