Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

#cariadcymraeg #lovewelsh

#cariadcymraeg #lovewelsh

O bartner astudio i bartner bywyd - sut gwnaeth dysgu Cymraeg ddod â phâr o Bontypridd at ei gilydd

Wrth i bobl ramantus ar draws Cymru ddathlu Dydd San Ffolant, mae pâr o Bontypridd wedi siarad am sut y gwnaeth dysgu’r iaith ddod â nhw at ei gilydd.

Cyfarfu Mair Lenny Turner, a'i gŵr, Drew, fel myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor am y tro cyntaf yn 2010. Roedd Mair, siaradwr Cymraeg o Aberystwyth, yn astudio ar gyfer PhD yn y Gymraeg, tra bod Drew, sy’n dod o Winscombe yng Ngwlad yr Haf, yn astudio MA mewn Cemeg

Roedd y pâr yn byw mewn tŷ o fyfyrwyr, pan benderfynodd Drew ddechrau dysgu Cymraeg ar gwrs dwys 'Wlpan'. Roedd Mair wrth law i helpu gyda gwaith cartref a thros amser, tyfodd y pâr yn agosach ac fe syrthion nhw mewn cariad.

"Roedd symud i Ogledd Cymru o Wlad yr Haf yn newid mawr," esboniodd Drew, "ac er mwyn ymdrwytho’n llwyr i fywyd lleol, penderfynais ddysgu Cymraeg. Roedd Mair yn help mawr, ac wrth iddi fy helpu i ymarfer, daethom yn raddol i adnabod ei gilydd."

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, gofynnodd Drew yn Gymraeg, i Mair i’w briodi, yn un o'u hoff lefydd, Castell Aberystwyth, ger cartref Mair.

Mae Drew yn cofio cyfarfod rhieni Mair, sydd hefyd yn siaradwyr Cymraeg rhugl, am y tro cyntaf.

"Roedd ffrindiau Mair wedi bod yn fy atgoffa i ddefnyddio'r cyfarchiad 'chi' ffurfiol wrth gwrdd â'm darpar rhieni-yng-nghyfraith am y tro cyntaf. Des i allan o'r car a'r peth cyntaf a ddywedais oedd 'Sut wyt ti?' cyn sylweddoli fy mod wedi gwneud camgymeriad. Ni wnaeth hyn beri unrhyw ofid iddyn nhw o gwbl ac maen nhw wedi bod yn 'ti' byth ers hynny!"

Roedd Drew a Mair eisiau eu seremoni priodas yn y Gymraeg a'r Saesneg, a fe wnaeth y diwrnod hyd yn oed yn fwy cofiadwy. Mae Drew yn esbonio: "Roedd gallu cyfnewid modrwyau ar ein diwrnod priodas yn Gymraeg yn foment arbennig i mi. Roeddwn wedi ymarfer am wythnos gyfan cyn y diwrnod mawr a phan priododd ein gweinidog - fy nhad-yng-nghyfraith - ni yn iaith gyntaf fy ngwraig, roeddwn i'n gwybod bod hyn yn foment bwysig yn ein perthynas.

Mae'r cwpl wedi ymgartrefu ym Mhontypridd ac maent yn gweithio yng Nghaerdydd, Mair fel swyddog gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac fel tiwtor Cymraeg, a Drew, fel dadansoddwr data ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Drew yn parhau i astudio Cymraeg ac, fel gwyddonydd sydd wedi arfer â gweld patrymau a strwythurau, mae’n dweud ei fod yn mwynhau dysgu am batrymau ieithyddol.

Mae'r Gymraeg yn rhan bwysig o fywyd cartref y cwpl hefyd ac, yn ffodus i Drew, mae Mair hefyd wrth law i'w helpu i adolygu ar gyfer ei arholiad Cymraeg sydd i ddod.

Mae cyrsiau Cymraeg ar bob lefel, o ddechreuwyr i siaradwyr profiadol, ar gael ledled Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.learnwelsh.cymru

Diwedd