Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Sgwrs gyda Claire Samuel

Sgwrs gyda Claire Samuel

Mae Claire Samuel yn dod o Lanelli yn wreiddiol. Doedd ei theulu ddim yn siarad Cymraeg gartref, ac aeth hi i ysgolion Saesneg.

Mae hi nawr yn athrawes yn Ysgol Glan-y-Môr, Porth Tywyn ac yn dysgu Cymraeg.

Cawson ni sgwrs gyda hi yng Nghanolfan Nant Gwrtheyrn. Roedd Claire ar gwrs gyda athrawon eraill sy’n dysgu Cymraeg ar lefel Mynediad.

Ers pryd wyt ti’n dysgu Cymraeg?

Dw i wedi bod eisiau dysgu Cymraeg trwy gydol fy mywyd ond es i i brifysgol yn Lloegr ac wedyn ces i swydd yn dysgu Celf a Thechnoleg mewn ysgol yn Abertawe.

Dw i wedi symud i ysgol yn Sir Gaerfyrddin ers 10 mis. Mae’r ysgol, Ysgol Glan-y-Môr ym Mhorth Tywyn, yn fy helpu i a phawb arall i siarad mwy o Gymraeg.

Gyda phwy wyt ti’n ymarfer siarad Cymraeg?

Yn yr ysgol, dw i’n ceisio dechrau’r wers gyda brawddeg fel ‘pawb yn dawel’.  Mae ffrind gyda fi yn yr ysgol sy’n siarad Cymraeg, ac mae hi’n siarad Cymraeg â fi bob dydd.  Dw i hefyd yn tecstio fy ffrindiau newydd trwy’r cwrs Dysgu Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn yn Gymraeg.

Wyt ti wedi mwynhau’r cwrs yn Nant Gwrtheyrn?

Ydw, mae’r cwrs yn anhygoel. Mae e wedi codi fy hyder llawer, llawer iawn. Doedd dim hyder gyda fi i i siarad Cymraeg cyn dod yma, ond nawr dw i’n cofio llawer o eiriau ac wedi gwneud cysylltiadau rhwng geiriau ro’n i wedi eu hanghofio. Mae popeth dw i wedi ei ddysgu dros y blynyddoedd wedi dod yn ôl i mi yn y Nant.

Beth yw dy freuddwyd yn y dyfodol gyda’r Gymraeg?

Dw i’n gobeithio bydd plant sy’n siarad Cymraeg yn yr ysgol yn gallu dod ata i a siarad eu hiaith gyntaf.  Mae un neu ddau wedi dechrau siarad Cymraeg â fi yn yr ysgol, ond dw i eisiau i fwy o blant ddod ata i, a siarad Cymraeg.

Mae llawer o gyrsiau preswyl yn cael eu cynnal i’r gweithlu addysg yn 2025. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen hon: Cyrsiau Preswyl i'r Gweithlu Addysg | Dysgu Cymraeg