Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Sgwrs gyda Siôn a Dick

Sgwrs gyda Siôn a Dick

Mae cynllun Siarad y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn rhoi cyfle i ddysgwyr Cymraeg ar lefel Canolradd neu uwch i sgwrsio gyda siaradwyr Cymraeg tu allan i’r dosbarth.

Dau sydd wedi bod yn cyfarfod am sgwrs ers Hydref 2023 ydy Siôn Thomas a Dick Wingham.  Mae Siôn yn byw ym Mhwllheli ac yn gweithio yn S4C.  Mae Dick yn wreiddiol o Swydd Gaerhirfryn, ond bellach yn byw ym Morfa Nefyn ac yn dilyn cwrs Uwch gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin.

Dyma ychydig o’u hanes:

Pam wnes di ymuno gyda’r cynllun Siarad?

Siôn: Nes i glywed am y cynllun trwy fy ngwaith.  Roedd yn swnio fel cyfle gwych i helpu rhywun i ddefnyddio eu Cymraeg mewn ffordd anffurfiol.  Dw i’n gweithio shifftiau ac ro’n i’n meddwl basai cyfarfod yn y dydd yn gweithio’n wych tra roedd fy mab yn yr ysgol a’m gwraig yn gweithio. 

Dick: Dw i'n hoffi cael cymaint o gyfleoedd â phosibl i siarad Cymraeg – dw i eisiau medru siarad gyda phobl yn y dafarn.

Sut aeth y cyfarfod cyntaf?

Dick: Roedd hi'n iawn - cwrddon ni yn y Bryncynan ym Mhwllheli yn y prynhawn a chael coffi a chyflwyno ein hunain.

Siôn: Roedd yn anodd dychmygu beth i ddisgwyl cyn y cyfarfod cyntaf, ond wrth i ni sgwrsio a dysgu am ddiddordebau ein gilydd, aeth popeth i deimlo’n naturiol iawn!

Ble dych chi’n cyfarfod erbyn hyn?

Dick: ’Dyn ni wedi cyfarfod mewn nifer o wahanol gaffis ym Mhwllheli a'r cyffiniau.

Beth yw’r peth gorau am y cynllun?

Siôn: Y peth gorau yw gweld brwdfrydedd dysgwyr dros yr iaith a bod o gymorth iddynt weld sut i'w defnyddio y tu allan i’r dosbarth.  Dw i hefyd wedi dod i adnabod person newydd a chael hanesion diddorol iawn.

Dick: Y peth gorau i mi yw cael cyfle i glywed ac ymateb i'r Gymraeg fel mae'n cael ei siarad ar y stryd.

Sut mae’r cynllun wedi eich helpu? 

Siôn: Mae'r cynllun wedi fy helpu i sylwi bod ychydig o amser yn gallu bod o gymorth mawr i ddysgwr.  Mae hefyd wedi dangos i mi beth sy’n bosib pan mae pawb yn dod at ei gilydd i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg hyderus. 

Beth fyddai eich cyngor i rhywun sy’n ystyried ymuno â’r cynllun?

Dick: Bachwch ar y cyfle!

Siôn: Os oes gennych chi’r amser, mae’n cael ei werthfawrogi yn fawr iawn gan y dysgwyr.  Does dim gwaith iddo, mae'n hwyl, ysgafn ac mae posib gwneud unrhyw beth dych chi’n dymuno.