Sgwrs gydag Emma
Ganwyd Emma Chappell, enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol 2017, yng Nghaergrawnt ac fe’i magwyd yn Royston, Hertfordshire. Erbyn hyn, mae’n byw gyda’i theulu ym mhentref Deiniolen, Gwynedd.
O ble wyt ti’n dod a beth yw dy gefndir di?
Dw i’n dod o Sir Hertford yn wreiddiol, ond symudes i o gwmpas nifer o weithiau cyn i mi setlo ym mhentref Deiniolen - Caergrawnt, Llundain, Minnesota, Manceinion a Warrington. Dw i wrth fy modd yn byw yn y mynyddoedd: awyr iach, dim ‘rush hour’ a llefydd prydferth i ddarganfod. Dw i ’di cael nifer o swyddi dros y blynyddoedd hefyd, gan gynnwys gweithio mewn gwestai 5 seren yn Llundain, gyrru tacsi pinc a gweithio fel 'Cabin Crew'. Rŵan dw i’n gweithio fel Swyddog Cyfleusterau, Adnoddau Dynol a Chydymffurfio yn Y Ganolfan Rheolaeth ym Mangor.
Pam oeddet ti eisiau dysgu Cymraeg?
Cariad! Wnes i gyfarfod fy mhartner Arwel yn 2004 ac mae o’n Gymro go iawn. Mae’r iaith Cymraeg a’r diwylliant yn bwysig iawn iddo fo ac ro'n i’n gwybod os oedden i isio cael perthynas lwyddiannus, fysa rhaid i mi ddysgu Cymraeg.
Sut/ble wnest ti ddysgu?
Wnes i fynychu dosbarth nos yn Warrington am flwyddyn cyn i mi symud i Gymru a dechreues i gwrs Wlpan yn syth bin. Wnes i weithio fy shifftiau o gwmpas y dosbarthiadau ac wedyn, pan o’n i’n feichiog, wnes i jyst parhau. Hyd yn oed, mi es i i ddosbarth tra o’n i’n hesgor efo fy mab cyntaf, dyna ymrwymiad i chi! (paid â phoeni, wnaeth o ddim cyrraedd yn y dosbarth!). Wnes i ddilyn cyrsiau i ddatblygu fy sgiliau ysgrifennu a chanolbwyntio ar Gymraeg ffurfiol trwy Canolfan Bedwyr a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Pryd a ble wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg?
Dw i’n defnyddio fy Nghymraeg ym mhob man! Cymraeg yw iaith y tŷ, dw i’n siarad Cymraeg yn y gwaith, efo fy ffrindiau, efo ysgolion yr hogiau, tra dw i’n siopa. Ym mhob man, wnâi drio dechrau bob sgwrs yn y Gymraeg.
Sut deimlad oedd ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn?
Roedd hi’n wych, yn hollol annisgwyl, ond ro’n i mor browd i ddangos pa mor bell o’n i ’di dod. Mi ges i gymaint o gefnogaeth gan fy nheulu, ffrindiau a gan deulu Arwel hefyd, roedd hi’n lyfli gweld nhw’n dathlu fy llwyddiant hefyd.
A fyddet ti’n annog dysgwyr eraill i gystadlu am wobr Dysgwr y Flwyddyn?
Byddwn – dw i ’di cael amser grêt, dw i ’di cyfarfod llwyth o bobl newydd, dw i ’di cael profiadau newydd ac mae ymateb pawb wedi bod mor ffeind ac emosiynol hefyd. Mae hi wedi bod yn brofiad da i fy nheulu bach hefyd - mae’r hogiau wedi mwynhau cael yr holl sylw a dan ni ’di cael dipyn o dripiau i Gaerdydd hefyd.
Beth yw dy hoff beth a dy gas beth?
Fy hoff beth ydy teithio, sdim ots lle dw i’n mynd, dw i jyst yn hoff iawn o fynd i lefydd eraill i grwydro a dysgu hanes y lle. Y peth dw i ddim yn hoff iawn o ydy madarch.
Beth wyt ti’n mwynhau gwneud yn dy amser hamdden?
Dw i’n mwynhau cerdded yn y mynyddoedd efo fy nheulu neu efo’r clwb cerdded lleol dan ni newydd sefydlu yn ardal Deiniolen. Dw i’n hoff iawn o goginio hefyd, yn enwedig pethau melys a dw i wrth fy modd efo llyfrau rysáit Elliw Gwawr.
Beth yw dy hoff lyfr Cymraeg?
Darllenais i ‘Blasu’ gan Manon Steffan Ross tua blwyddyn yn ôl a wnes i wir mwynhau. Ro’n i’n hoff iawn o’r cymeriadau yn y stori a hefyd wnes i fwynhau neud y rysetiau, yn enwedig y gacen sinsir.
Beth yw dy hoff air Cymraeg?
Dwi’n hoff iawn o’r gair pendramwnwgl – dw i’n teimlo fel dyna sut dw i di mynd ati i ddysgu Cymraeg felly, dw i’n cydymdeimlo efo’r gair!
Oes gen ti unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?
Peidiwch â phoeni beth mae pobl eraill yn meddwl, dydy camgymeriadau ddim yn bwysig o gwbl. Defnyddiwch eich clustiau i wrando ar bobl eraill ac ar beth wyt ti’n deud hefyd ac os dydy o ddim yn swnio’n dda, cywiro dy hun tra ti’n siarad.
Penderfynais i wrando ar orsafoedd Cymraeg yn unig tra o’n i yn y car neu’n y gegin. Dw i ’di dysgu geiriau newydd a dw i ’di clywed geiriau ac idiomau sŵn i byth ’di clywed heb wrando arnyn nhw.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Mam, meddylgar, uchelgeisiol.
Mae modd gwylio fideo sy'n hyrwyddo Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 isod: