Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Sgwrs gydag Emma

Sgwrs gydag Emma

Ganwyd Emma Chappell, enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol 2017, yng Nghaergrawnt ac fe’i magwyd yn Royston, Hertfordshire. Erbyn hyn, mae’n byw gyda’i theulu ym mhentref Deiniolen, Gwynedd.

O ble wyt ti’n dod a beth yw dy gefndir di?
Dw i’n dod o Sir Hertford yn wreiddiol, ond symudes i o gwmpas nifer o weithiau cyn i mi setlo ym mhentref Deiniolen - Caergrawnt, Llundain, Minnesota, Manceinion a Warrington.  Dw i wrth fy modd yn byw yn y mynyddoedd: awyr iach, dim ‘rush hour’ a llefydd prydferth i ddarganfod. Dw i ’di cael nifer o swyddi dros y blynyddoedd hefyd, gan gynnwys gweithio mewn gwestai 5 seren yn Llundain, gyrru tacsi pinc a gweithio fel 'Cabin Crew'. Rŵan dw i’n gweithio fel Swyddog Cyfleusterau, Adnoddau Dynol a Chydymffurfio yn Y Ganolfan Rheolaeth ym Mangor.

Pam oeddet ti eisiau dysgu Cymraeg?
Cariad! Wnes i gyfarfod fy mhartner Arwel yn 2004 ac mae o’n Gymro go iawn. Mae’r iaith Cymraeg a’r diwylliant yn bwysig iawn iddo fo ac ro'n i’n gwybod os oedden i isio cael perthynas lwyddiannus, fysa rhaid i mi ddysgu Cymraeg.

Sut/ble wnest ti ddysgu?
Wnes i fynychu dosbarth nos yn Warrington am flwyddyn cyn i mi symud i Gymru a dechreues i gwrs Wlpan yn syth bin. Wnes i weithio fy shifftiau o gwmpas y dosbarthiadau ac wedyn, pan o’n i’n feichiog, wnes i jyst parhau. Hyd yn oed, mi es i i ddosbarth tra o’n i’n hesgor efo fy mab cyntaf, dyna ymrwymiad i chi! (paid â phoeni, wnaeth o ddim cyrraedd yn y dosbarth!). Wnes i ddilyn cyrsiau i ddatblygu fy sgiliau ysgrifennu a chanolbwyntio ar Gymraeg ffurfiol trwy Canolfan Bedwyr a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Pryd a ble wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg?

Dw i’n defnyddio fy Nghymraeg ym mhob man! Cymraeg yw iaith y tŷ, dw i’n siarad Cymraeg yn y gwaith, efo fy ffrindiau, efo ysgolion yr hogiau, tra dw i’n siopa.  Ym mhob man, wnâi drio dechrau bob sgwrs yn y Gymraeg.

Sut deimlad oedd ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn?
Roedd hi’n wych, yn hollol annisgwyl, ond ro’n i mor browd i ddangos pa mor bell o’n i ’di dod.  Mi ges i gymaint o gefnogaeth gan fy nheulu, ffrindiau a gan deulu Arwel hefyd, roedd hi’n lyfli gweld nhw’n dathlu fy llwyddiant hefyd.

A fyddet ti’n annog dysgwyr eraill i gystadlu am wobr Dysgwr y Flwyddyn?
Byddwn – dw i ’di cael amser grêt, dw i ’di cyfarfod llwyth o bobl newydd, dw i ’di cael profiadau newydd ac mae ymateb pawb wedi bod mor ffeind ac emosiynol hefyd. Mae hi wedi bod yn brofiad da i fy nheulu bach hefyd - mae’r hogiau wedi mwynhau cael yr holl sylw a dan ni ’di cael dipyn o dripiau i Gaerdydd hefyd.

Beth yw dy hoff beth a dy gas beth?
Fy hoff beth ydy teithio, sdim ots lle dw i’n mynd, dw i jyst yn hoff iawn o fynd i lefydd eraill i grwydro a dysgu hanes y lle.  Y peth dw i ddim yn hoff iawn o ydy madarch.

Beth wyt ti’n mwynhau gwneud yn dy amser hamdden?
Dw i’n mwynhau cerdded yn y mynyddoedd efo fy nheulu neu efo’r clwb cerdded lleol dan ni newydd sefydlu yn ardal Deiniolen. Dw i’n hoff iawn o goginio hefyd, yn enwedig pethau melys a dw i wrth fy modd efo llyfrau rysáit Elliw Gwawr.

Beth yw dy hoff lyfr Cymraeg?
Darllenais i ‘Blasu’ gan Manon Steffan Ross tua blwyddyn yn ôl a wnes i wir mwynhau.  Ro’n i’n hoff iawn o’r cymeriadau yn y stori a hefyd wnes i fwynhau neud y rysetiau, yn enwedig y gacen sinsir.

Beth yw dy hoff air Cymraeg?
Dwi’n hoff iawn o’r gair pendramwnwgl – dw i’n teimlo fel dyna sut dw i di mynd ati i ddysgu Cymraeg felly, dw i’n cydymdeimlo efo’r gair!

Oes gen ti unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?
Peidiwch â phoeni beth mae pobl eraill yn meddwl, dydy camgymeriadau ddim yn bwysig o gwbl. Defnyddiwch eich clustiau i wrando ar bobl eraill ac ar beth wyt ti’n deud hefyd ac os dydy o ddim yn swnio’n dda, cywiro dy hun tra ti’n siarad.

Penderfynais i wrando ar orsafoedd Cymraeg yn unig tra o’n i yn y car neu’n y gegin.  Dw i ’di dysgu geiriau newydd a dw i ’di clywed geiriau ac idiomau sŵn i byth ’di clywed heb wrando arnyn nhw.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Mam, meddylgar, uchelgeisiol.

 

Mae modd gwylio fideo sy'n hyrwyddo Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 isod: