Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Sgwrs gydag Osian

Sgwrs gydag Osian

Mae Osian Huw Williams yn gerddor amlwg, yn chwarae gyda’r band poblogaidd ‘Candelas’.  Gofynnon ni iddo fe ateb rhai cwestiynau i ni!

O ble wyt ti’n dod?

Dw i’n dŵad o Lanuwchllyn ger y Bala. Mae gen i frawd a chwaer. Mae fy mrawd yn actor ac mae fy chwaer yn gweithio i’r Urdd. Roedd fy nhad yn athro Mathemateg yn Ysgol Y Berwyn ac mae fy mam yn gweithio yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Dolgellau fel tiwtor dyslexia.  

Beth faset ti’n wneud taset ti ddim yn ganwr ac yn gerddor?

Ers pan o’n i’n ifanc iawn, fy mreuddwyd oedd chwarae pêl-droed i Gymru. Felly, er ei bod hi braidd yn hwyr i feddwl am wneud hynny rŵan, baswn i dal wrth fy modd tasai’r freuddwyd yn dod yn wir.... dydi o ddim am ddigwydd wrth gwrs!!

Dy uchelgais?
Fy uchelgais ydy gallu byw ar hyd fy mywyd yn creu a pherfformio cerddoriaeth.

Dy hoff beth a dy gas beth?

Hoff beth – Drymiau          
Cas beth – Pobl sydd mewn bandiau ond sydd yn methu chwarae dryms!!

Beth wyt ti’n mwynhau wneud yn dy amser hamdden?

Mae ’na griw lleol yn cyfarfod i chwarae pêl-fasged bob wythnos felly mae hynny wastad yn hwyl.  Mae tafarn Yr Eryrod yn gyfleus iawn yn Llanuwchllyn hefyd!

Y lle gorau i ti chwarae gig a pham?

Gig y Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni 2016 efo Candelas a’r gerddorfa gan mai hwnnw oedd y tro cyntaf i gyngerdd pop ddigwydd yn yr Eisteddfod.  Roedd y lle yn llawn pobl o bob oed a phawb yn colli eu pennau gan ei fod yn ddigwyddiad mor arbennig.

Dy hoff lyfr Cymraeg?

‘Y Gân Olaf’ gan Gerallt Lloyd Owen.  Mi fydda i’n hoff o ddarllen llyfrau cerddi am ysbrydoliaeth.

Dy hoff air Cymraeg?

Chwyrligwgan.

Unrhyw neges i ddysgwyr y Gymraeg?

Alla i ddim dychmygu dysgu iaith newydd achos dyw fy ymenydd bach i ddim yn dda iawn efo geiriau. Felly mae gen i barch enfawr at bawb sy’n dysgu’r Gymraeg.

Peidiwch â digaloni na phoeni gormod am gael pob dim yn gywir (ma’ nghaneuon i yn llawn camgymeriadau gramadegol dw i’n siŵr- ond pwy sy’n poeni?!).  Mae’r ffaith eich bod yn ymdrechu i’w dysgu hi yn ddigon felly ewch i’w hymarfer hi gymaint â phosib!  

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Cwrtais, tal a thenau!!