Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gwasanaeth newydd

Gwasanaeth newydd

Sianel ar-lein newydd i ddysgwyr Cymraeg

Bydd yn haws i ddysgwyr Cymraeg ddod o hyd i raglenni Cymraeg addas o hyn ymlaen wrth i S4C a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol lansio sianel ar-lein newydd sy’n gartref i lu o raglenni sy wedi’u dewis a’u dethol ar eu cyfer.

Mae’r Sianel Dysgu Cymraeg yn rhan o ‘ S4C Clic’, gwasanaeth ar-alw S4C.  Bydd amrywiaeth o raglenni ar gael, yn gyfresi poblogaidd o’r archif ac arlwy mwy diweddar, wedi’u dewis gyda chymorth y Ganolfan.

Bydd modd i wylwyr ddefnyddio isdeitlau Saesneg neu isdeitlau Cymraeg syml ar y rhaglenni, sy’n cynnwys cyfresi pwrpasol ar gyfer dysgwyr.

Bydd y gyfres dysgu Cymraeg, Welsh in a Week, a rhaglenni Dal ati, gwasanaeth blaenorol y sianel i ddysgwyr, ymhlith yr arlwy.  Bydd cyfresi hamdden, hefyd, megis Garddio a Mwy, Codi Pac a Cwpwrdd Dillad.  Mae cariad@iaith, a ddilynodd griw o ddysgwyr enwog yn Nant Gwrtheyrn, a Popeth yn Gymraeg, gyda’r bardd Ifor ap Glyn, hefyd wedi’u cynnwys.

Yn ogystal â’r sianel ar-lein, mae S4C yn barod yn darlledu rhaglenni addas ar gyfer dysgwyr pob bore dydd Sul, gan gynnwys rhaglen newyddion Cymraeg syml.  Mae pytiau digidol ar gael i ddechreuwyr ac mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer cyfres wreiddiol, newydd am ddysgwyr, i’w darlledu yn y gwanwyn.

Meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C:

“Mae’r Sianel Dysgu Cymraeg newydd yn rhan o ymrwymiad S4C i gefnogi dysgwyr Cymraeg a’u croesawu i’r gwasanaeth. 

“’Dyn ni’n awyddus i helpu dysgwyr ar bob cam o’u siwrnai i ddysgu’r iaith, ond yn arbennig, felly, eu denu i wylio S4C ar ddechrau eu ‘taith iaith’.  Gyda dewis ardderchog o raglenni wedi’u casglu yn yr un fan, bydd yn hawdd i ddysgwyr troi atom i fwynhau defnyddio’u Cymraeg.

“Mae croeso, hefyd, i ddysgwyr a thiwtoriaid Cymraeg gysylltu gydag awgrymiadau ar gyfer rhaglenni poblogaidd eraill i’w cynnwys ar y sianel, fydd yn esblygu dros y misoedd a blynyddoedd sydd i ddod.”

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Mae creu cyfleoedd i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg, a magu hyder i ddefnyddio’r iaith, yn rhan fawr o genhadaeth y Ganolfan.  Bydd y sianel ar-alw newydd hon yn galluogi dysgwyr i wylio rhaglenni Cymraeg addas ar amser sy’n gyfleus iddyn nhw.

“’Dyn ni’n falch iawn o gydweithio gydag S4C ar y fenter ddiweddaraf hon, sy’n rhan o bartneriaeth bwysig rhyngom i gefnogi dysgwyr Cymraeg.”

Diwedd