Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Sianel ‘You Tube’ i ddysgu Cymraeg yn China

Sianel ‘You Tube’ i ddysgu Cymraeg yn China

Mae YuQi Tang, sy’n wreiddiol o Shanghai yn China, wedi cychwyn sianel ddigidol sy’n dysgu Cymraeg trwy gyfrwng Tsieinëeg yn dilyn ei blwyddyn ryfeddol yn dysgu’r iaith.

Enw Cymreig YuQi ydy Morwenna, a daeth i Gymru ddwy flynedd yn ôl gyda’i gŵr, Scott Griffiths, sy’n wreiddiol o Gaerdydd.  Mae wedi bod yn dysgu Cymraeg trwy Duolingo ac ers dechrau’r cyfnod clo, ar gwrs gyda Dysgu Cymraeg Gwent, sy’n cael ei gynnal gan Goleg Gwent ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Doedd hi ddim yn hawdd i Morwenna ddechrau dysgu’r iaith yn Tsieina, gan nad yw nifer o’r llwyfannau dysgu digidol ar gael yno, ac felly yn ddiweddar, mae Morwenna wedi sefydlu sianel ar BiliBili, sy’n cyfateb i YouTube yn Tsieina, i ddysgu Cymraeg trwy gyfwng Tsieinëeg.

Dywedodd Morwenna, “Pan oeddwn i yn byw yn Tsieina, roedd yn anodd iawn dysgu’r iaith. Mae gen i dros 200 o ddilynwyr ar y fy sianel erbyn, ac yn ogystal â dysgu’r iaith iddyn nhw, dw i hefyd yn eu haddysgu am y diwylliant a phethau sy’n unigryw i Gymru.  Pethau fel gwneud pice ar y maen neu’r Eisteddfod!”

Shanghaieg oedd Morwenna yn siarad ar yr aelwyd, gan ddysgu Tsieinëeg yn yr ysgol.  Clywodd y Gymraeg am y tro cyntaf ar ymweliad i Gymru gyda’i gŵr – doedd hi ddim yn sylweddoli cyn hynny fod yr iaith yn bodoli, na, chwaith, bod ei gŵr yn gallu ei siarad.  Roedd wedi rhyfeddu gyda’r iaith, a phenderfynodd fynd ati i’w dysgu. 

Ers symud i Gymru ddwy flynedd yn ôl, mae wedi bod yn mynychu gwersi ar-lein, ac yn ymarfer ei Chymraeg gyda hen fodryb ei gŵr o Geredigion.

Meddai Morwenna, “Mae wedi bod yn braf iawn cael siarad yn Gymraeg dros y ffôn gyda Mair, hen fodryb fy ngŵr.  ’Dyn ni wedi bod yn darllen nofel ‘Un Noson Dywyll’, T Llew Jones, gyda’n gilydd a nawr wedi symud ymlaen i’r Mabinogi mewn hen Gymraeg, sy’n ddiddorol iawn.”

Mae Morwenna yn manteisio ar bob cyfle mae hi’n ei gael i ddefnyddio’r iaith ac yn annog dysgwyr newydd eraill i wneud yr un peth.

Meddai, “Mae’n eithaf hawdd rhagweld cwestiynau fydd siaradwyr Cymraeg yn eu gofyn i chi – pam dysgu Cymraeg, pam symud i Gymru ac ati, ond mae angen i ddysgwyr fentro siarad mewn sefyllfaoedd eraill er mwyn ymestyn eu geirfa, a’u hunain.   A’r peth pwysicaf un ydy peidio bod ofn gwneud camgymeriadau gan fwynhau’r her o siarad iaith newydd.”

Mae Morwenna bellach yn byw yng Nghei Newydd, ar ôl cyfnod yn byw yng Nghaerdydd.  Yn ddiweddar mae hi wedi ei phenodi i swydd newydd gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fel tiwtor Tsieinëeg, lle bydd hi’n creu deunyddiau yn Saesneg, Cymraeg a Tsieinëeg.

DIWEDD

  • Dyma ddolen i sianel Bilibili Morwenna - https://space.bilibili.com/490460597
  • Mae Morwenna yn bwriadu creu gwers trwy gyfrwng y Gymraeg i ddysgu Chineeg ar ei sianel Bilibili cyn bo hir.