Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Siaradwch Gymraeg bob dydd – gyda’ch ffrindiau, dysgwyr eraill a hyd yn oed eich anifeiliaid!

Siaradwch Gymraeg bob dydd – gyda’ch ffrindiau, dysgwyr eraill a hyd yn oed eich anifeiliaid!
Martin a Sue Whitebread

Llun: Martin a Sue Whitbread gyda dysgwyr eraill o'u dosbarth. 

Mae cwpwl o Gasblaidd ger Hwlffordd yn Sir Benfro, yn dweud bod siarad Cymraeg gyda’u hanifeiliad yn ffordd dda o ymarfer yr iaith y tu allan i’w gwersi wythnosol.

Mae Martin a Sue Whitbread, sy’n wreiddiol o Sussex, yn dysgu Cymraeg ar lefel Mynediad (ar gyfer dechreuwyr) gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro, sy’n cael ei weinyddu gan Gyngor Sir Penfro ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 

Ar ôl ymddeol, symudodd y ddau i fyw mewn tyddyn yng Nghasblaidd, lle maen nhw’n cadw chwe gafr, chwech o ieir, dau fochyn a chwch gwenyn.

Meddai Martin, “’Dyn ni’n mwynhau dysgu Cymraeg yn y dosbarth gyda’n gilydd. Mae dysgu Cymraeg yn llawer o hwyl gyda’n tiwtor Tomos, ac mae’n braf cael dysgu iaith y wlad lle ’dyn ni nawr yn byw.”

Ychwanegodd, “Mae grŵp hyfryd yn y dosbarth gyda ni. ’Dyn ni wedi gwneud llawer o ffrindiau a dod yn rhan o’r gymuned ’dyn ni’n byw ynddi.”

Mae’r ddau’n mwynhau treulio amser yn gofalu am yr anifeiliaid, ac maen nhw’n dweud bod siarad Cymraeg gyda’r geifr, yr ieir, y moch a’r gwenyn yn eu helpu i ddefnyddio’r iaith yn eu bywyd o ddydd i ddydd, a hynny wrth fwynhau bod yn yr awyr agored.

Meddai Sue, ”’Dyn ni wedi mynychu sesiynau undydd y Sadyrnau Siarad, sydd wedi bod o help mawr i adolygu’r hyn ’dyn ni’n ei ddysgu yn y dosbarthiadau, a ’dyn ni’n edrych ymlaen at fynd ar y Cwrs Haf ym mis Awst.

“’Dyn ni’n ymarfer gyda’n gilydd rhwng y gwersi hefyd, a dros yr haf byddwn ni’n cael barbeciw gyda’r dosbarth i ymarfer.  Mae’n braf defnyddio’r Gymraeg gyda’r anifeiliaid, ac mae nhw’n dda iawn am wrando bob amser!”

Mae’n braf iawn cael bod yn rhan o daith y dysgwyr wrth iddyn nhw dyfu mewn hyder wrth ddysgu’r Gymraeg. Dw i’n eu gweld nhw’n dysgu mwy o’r iaith bob wythnos ac yn hoff o’u gweld nhw’n cael boddhad wrth siarad yr iaith o ddydd i ddydd, boed hynny gyda dysgwyr eraill, gyda siaradwyr Cymraeg, neu gyda’u hanifeiliad wrth gwrs! Y peth pwysig yw ymarfer yr iaith, a’i defnyddio hi gymaint â phosib y tu mewn a thu allan i’r dosbarth

Tomos Hopkins, Dysgu Cymraeg Sir Benfro,

Er mwyn dod o hyd i gwrs Cymraeg neu gyfleon i ddefnyddio’r Gymraeg, ewch i dysgucymraeg.cymru. Mae cyrsiau am ddim ar gael ar y gwefan hefyd.