Seren Jones a Chariya Davies, staff sy'n dysgu Cymraeg, gydag un o breswylwyr y cartref, Beti Rowlands.
Mae dau aelod o staff cartref gofal Plas Hafan yn Nefyn, Penrhyn Llŷn, yn dysgu Cymraeg er mwyn defnyddio’r iaith gyda phreswylwyr y cartref. Mae nifer o’r preswylwyr yn byw gyda chyflyrau fel dementia.
Dechreuodd Chariya Davies a Seren Jones gwrs ‘Cymraeg yn y Gweithle’ ym mis Medi. Mae’r cwrs wythnosol yn cael ei drefnu yn y cartref gofal gan Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Bangor ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a’i noddi gan Gyngor Gwynedd.
Yn ôl Chariya Davies, sy’n wreiddiol o Wlad Thai: “Dw i’n dysgu Cymraeg er mwyn medru cyfathrebu efo’r preswylwyr. Mae llawer ohonyn nhw yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf ac felly dw i’n teimlo ei bod hi’n ddyletswydd arnon ni i ddysgu’r iaith. Mae hefyd yn gwella ein perthynas â nhw. Dan ni’n cael llawer o hwyl yn ymarfer ac yn dysgu geiriau newydd. Mae pawb yn gefnogol iawn ac yn ein helpu ni i ddysgu.”
Ychwanegodd Seren Jones, sy’n dod o Ferthyr Tudful yn wreiddiol: “Dan ni’n siarad yn Gymraeg efo staff eraill y cartref ac yn cael cyfle i ymarfer be’ dan ni’n ei ddysgu bob wythnos. Ar hyn o bryd dan ni wrth ein boddau’n paratoi at y Nadolig efo’r preswylwyr. Mae hi’n braf iawn eu clywed yn siarad am y Nadolig a’u traddodiadau a hynny yn y Gymraeg.”
Meddai Eluned Croydon, tiwtor y cwrs: “Mae Seren a Chariya yn dilyn cwrs lefel ‘Canolradd’ sy’n golygu eu bod yn gallu sgwrsio’n rhwydd am bynciau pob dydd. Maen nhw’n awyddus iawn i wella eu Cymraeg ac yn barod i ddefnyddio’u Cymraeg gyda’r preswylwyr a’r staff. Mae’n braf eu clywed yn cael hwyl, yn trafod ac yn hel atgofion yn Gymraeg gyda’r preswylwyr.”
Meddai Wendy Owen, Rheolwraig Plas Hafan: “Gyda’r mwyafrif o’n trigolion yn enedigol o’r ardal, ac yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, mae’n bwysig eu bod yn derbyn gofal gan staff yn eu mamiaith, er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth sy’n cael ei gynnig o’r safon uchaf.
“Dan ni’n falch dros ben bod y cwrs yn cael ei gynnal yma ac yn falch hefyd o gynnydd Seren a Chariya.”
Bydd cyrsiau Dysgu Cymraeg ar gyfer dechreuwyr yn dechrau mewn cymunedau ledled y gogledd ym mis Ionawr. Mae’r Ganolfan hefyd yn ariannu cynllun o’r enw ‘Cymraeg Gwaith’ sy’n cynnig cyfleoedd i weithwyr yn y sector gofal cymdeithasol, ynghyd â sectorau eraill, i ddatblygu sgiliau Cymraeg yn y gweithle.