Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Symud i Gymru a magu teulu’n sbarduno Sophie i ddysgu Cymraeg

Symud i Gymru a magu teulu’n sbarduno Sophie i ddysgu Cymraeg

Mae merch a ddaw yn wreiddiol o Nottingham wedi croesawu pob cyfle i ddysgu’r Gymraeg ers symud i Sir Benfro.

Symudodd Sophie Tuckwood o Nottingham i Sir Benfro yn 2011, er mwyn byw gyda’i gŵr, Andrew a ddaw yn wreiddiol o Hwlffordd.

Mi wnaeth Sophie benderfynu dysgu Cymraeg ar ôl cael plant.  Mae Arthur a Logan bellach yn 3 a 5 oed ac yn mynychu Ysgol Caer Elen;

‘‘Ar ôl i fi gael plant, roeddwn i eisiau cadw’r iaith yn fyw a rhoi cyfle i’r plant fod yn ddwyieithog.’’

Dechreuodd Sophie fynychu sesiynau hwyliog 'Cymraeg i Blant' gyda’i mab ieuengaf cyn dilyn cwrs ‘Clwb Cwtsh’, sef cwrs byr rhad ac am ddim i deuluoedd.

Ym mis Medi 2018, mi wnaeth Sophie ddilyn cwrs ‘Cymraeg i'r Teulu’ ar lefel Mynediad, ar gyfer dechreuwyr, yn ogystal â mynychu cwrs dwys gyda ‘SaySomethingInWelsh’ yn ystod haf 2019.

Erbyn hyn mae hi’n siarad Cymraeg gyda’i phlant bob dydd ac yn mwynhau gwrando ar Radio Cymru ac ar gerddoriaeth Gymraeg, yn enwedig Georgia Ruth ac Ani Glass.

Mae hi hefyd wedi sefydlu blog ar Instagram o’r enw @welsh.notebook er mwyn rhannu ei phrofiadau, a rhoi cyngor i ddysgwyr eraill sy’n dymuno mynd ati i ddysgu’r Gymraeg.

Cyn y cyfnod clo, roedd Sophie yn cwrdd â ffrindiau i ymarfer ei Chymraeg yn y dafarn bob wythnos;

‘‘Mae fy Nghymraeg i’n tueddu i fod yn well ar ôl yfed peint!  Dw i wedi gwneud cymaint o ffrindiau trwy ddysgu Cymraeg a dw i’n trio manteisio ar bob cyfle posib i ddefnyddio’r iaith.’’

Erbyn hyn mae Sophie yn dysgu Cymraeg ar gwrs lefel Uwch, ar gyfer dysgwyr profiadol, gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro, gaiff ei gynnal gan Gyngor Sir Penfro ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  

Mae Sophie yn edrych ymlaen at fynychu mwy o ddigwyddiadau i ddefnyddio ei Chymraeg;

‘‘Y mwya dw i’n defnyddio fy Nghymraeg, y mwya dw i'n cael fy ysbrydoli i ddysgu rhagor.  Fy nghyngor i eraill sy’n dymuno dysgu’r iaith yw i siarad y Gymraeg, gwneud camgymeriadau ac i ddal ati!’’

Fideo: Sophie yn siarad am ei phrofiadau gyda S4C Dysgu Cymraeg

Cliciwch yma i wrando ar sgwrs rhwng Sophie a Tomos Hopkins o Dysgu Cymraeg Sir Benfro.