Mae gwirfoddolwyr lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi dysgwyr yn eu cymuned, drwy gynnal sesiynau sgwrsio misol yn nhafarn y pentref.
Mae’r sesiynau, sy’n cael eu cynnal ar ddydd Iau olaf y mis yn Ty’n Llan yn Llandwrog ger Caernarfon, yn boblogaidd iawn, ac maen nhw wedi dechrau ar ôl i’r dafarn gael ei phrynu gan dros 1000 o bobl y llynedd, ac mae wedi datblygu i fod yn ganolfan gymunedol lewyrchus dros ben.
Mae Ty’n Llan yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau cymunedol, gan gynnwys boreau coffi, clybiau garddio a cherdded, prosiect ieuenctid o’r enw ‘Ty’n Llan Ni’ a’r clwb i ddysgwyr, sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr lleol ymarfer eu Cymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth.
Mae Ann Jenkins yn dysgu Cymraeg ac yn mynychu’r clwb yn rheolaidd;
‘‘Dw i’n dysgu Cymraeg ers dwy flynedd, a dw i mor falch o gael cyfle i ymarfer siarad Cymraeg ar stepen fy nrws. Dw i wrth fy modd yn sgwrsio efo’r pentrefwyr a gwneud ffrindiau newydd. Diolch i’r sesiynau yma, dw i rŵan yn teimlo’n fwy hyderus wrth siarad Cymraeg efo fy nheulu. Mae’r clwb yn anffurfiol ac yn hwyliog, a hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i’r gwirfoddolwyr sy’n dod i’r sesiynau ac yn ein cefnogi bob mis.’’
Marnel Pritchard ydy un o’r gwirfoddolwyr lleol sy’n mynychu’r clwb er mwyn cefnogi’r dysgwyr;
‘‘Dw i wrth fy modd yn cymdeithasu gyda’r dysgwyr gan eu bod mor angerddol am yr iaith Gymraeg. Mae’n wych gweld eu hyder yn cynyddu wrth i’r misoedd fynd heibio. Maen nhw i gyd yn dod o wahanol gefndiroedd, ac mae’n bleser treulio amser yn eu cwmni. ’Dyn ni bob amser yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr, felly os hoffech ymuno, cysylltwch â ni!’’