Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Tafarn leol yn cefnogi dysgwyr

Tafarn leol yn cefnogi dysgwyr

Mae gwirfoddolwyr lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi dysgwyr yn eu cymuned, drwy gynnal sesiynau sgwrsio misol yn nhafarn y pentref.

Mae’r sesiynau, sy’n cael eu cynnal ar ddydd Iau olaf y mis yn Ty’n Llan yn Llandwrog ger Caernarfon, yn boblogaidd iawn, ac maen nhw wedi dechrau ar ôl i’r dafarn gael ei phrynu gan dros 1000 o bobl y llynedd, ac mae wedi datblygu i fod yn ganolfan gymunedol lewyrchus dros ben.

Mae Ty’n Llan yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau cymunedol, gan gynnwys boreau coffi, clybiau garddio a cherdded, prosiect ieuenctid o’r enw ‘Ty’n Llan Ni’ a’r clwb i ddysgwyr, sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr lleol ymarfer eu Cymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

Mae Ann Jenkins yn dysgu Cymraeg ac yn mynychu’r clwb yn rheolaidd;

‘‘Dw i’n dysgu Cymraeg ers dwy flynedd, a dw i mor falch o gael cyfle i ymarfer siarad Cymraeg ar stepen fy nrws.  Dw i wrth fy modd yn sgwrsio efo’r pentrefwyr a gwneud ffrindiau newydd.  Diolch i’r sesiynau yma, dw i rŵan yn teimlo’n fwy hyderus wrth siarad  Cymraeg efo fy nheulu.  Mae’r clwb yn anffurfiol ac yn hwyliog, a hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i’r gwirfoddolwyr sy’n dod i’r sesiynau ac yn ein cefnogi bob mis.’’

Marnel Pritchard ydy un o’r gwirfoddolwyr lleol sy’n mynychu’r clwb er mwyn cefnogi’r dysgwyr;

‘‘Dw i wrth fy modd yn cymdeithasu gyda’r dysgwyr gan eu bod mor angerddol am yr iaith Gymraeg.  Mae’n wych gweld eu hyder yn cynyddu wrth i’r misoedd fynd heibio.  Maen nhw i gyd yn dod o wahanol gefndiroedd, ac mae’n bleser treulio amser yn eu cwmni.  ’Dyn ni bob amser yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr, felly os hoffech ymuno, cysylltwch â ni!’’