Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Taith anhygoel y gŵr o Halifax yn dysgu Cymraeg

James Horne

Cwrs Calan 2020 oedd dechrau taith James Horne, sy’n wreiddiol o Halifax, yn dysgu Cymraeg a llai na dwy flynedd yn ddiweddarach, mae’n hyderus yn siarad yr iaith ac wedi dechrau cwrs ymarfer dysgu uwchradd, i addysgu Ffrangeg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae James, sydd wedi graddio o Brifysgol Bangor, wedi bod yn dysgu’r iaith ar gyrsiau gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin, sy’n cael eu trefnu gan Brifysgol Bangor ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae gan James gariad gwirioneddol at ieithoedd, ac un o’r rhesymau pam roedd e eisiau dod i Fangor i astudio oedd am ei fod yn gallu gwneud gradd mewn tair iaith, sef Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg.

Doedd Prifysgol Bangor ddim ar frig ei restr o ddewisiadau yn y chweched dosbarth nes iddo ddod draw yno ar ddiwrnod agored.  Dywedodd James, “Mi wnes i ymweld â Bangor yn y mis Ebrill cyn fy arholiadau Lefel A, ac mi wnes i feddwl ‘oh my gosh’, mae’r lle yma yn anhygoel.  Yn dilyn hynny, mi wnes i newid fy ffurflen UCAS a rhoi Bangor ar y brig!

“Dw i’n cofio’r daith yna i Fangor, a’r peth cyntaf wnes i sylwi arno oedd yr arwyddion.  Ro’n i wir isio gwybod beth oedden nhw’n ei ddweud, a dw i’n cofio trio ynganu ‘ysbyty’.  Mae’n rhyfedd edrych yn ôl ar hynny, gan ei fod wir yn syml iawn!

“Ar ôl i mi ddechrau yn y brifysgol, dw i’n cofio clywed y Gymraeg am y tro cyntaf mewn archfarchnad.  Ro’n i’n meddwl i ddechrau mai Saesneg oedd o, ond yna mi wnes i stopio i ganolbwyntio a gwrando yn iawn, a phenderfynu nad oeddwn i yn ei deall gan mai Cymraeg oedd o.

“Am wn i hefyd, gan fy mod i yn dŵad o Loegr, roedd gen i ‘mindset’ gwahanol a doeddwn i ddim yn gwybod fod y Gymraeg yn bodoli fel iaith fyw.  Mi wnes i licio ei sŵn o’r dechrau, ond ar y pryd, doeddwn i ddim eisiau ei dysgu gan fy mod i’n barod yn astudio tair iaith arall.”

Wedi blwyddyn yn astudio, penderfynodd James fod tair iaith yn ormod felly fe ollyngodd Sbaeneg.  Yna, ar ei flwyddyn allan, yn dilyn cyfnod yn Nantes, Ffrainc, ei fwriad oedd mynd ymlaen i’r Almaen i dreulio ail ran ei flwyddyn.  Ond daeth y cyfnod clo, gan chwalu’r syniad hwnnw.  A gan nad oedd yn cael treulio amser yn siarad yr iaith yn yr Almaen, penderfynodd ollwng Almaeneg o’i radd, oedd yn golygu fod ganddo le i’r Gymraeg.

Meddai James, “Dw i wrth fy modd yn dysgu ieithoedd, felly pan wnes i ollwng Almaeneg o fy ngradd, mi wnes i ddarganfod y Gymraeg a dechrau ei dysgu o ddifri.

“Dw i’n dal i gamu trwy’r diwylliant ac yn dod ar draws mwy a mwy o hanes am beth mae’r Gymraeg wedi goresgyn.

“Mae’n ddiddorol pan dw i’n siarad efo dysgwyr eraill, gan ein bod ni’n teimlo fel tasen ni ar ben wal yn gallu gweld y ddwy ochr.  Ro’n i un ochr i’r wal, a rŵan dw i ar yr ochr arall.  Yn amlwg, gan mod i’n dod o Loegr, mae gen i fy ochr Saesneg ond dw i’n falch mod i’n gallu dringo’r wal i’r ochr draw.”

Yn ogystal â gallu siarad yn wych, mae James hefyd wedi dechrau barddoni yn y Gymraeg ac wedi cystadlu yn yr Eisteddfod AmGen.

Dywedodd, “Dw i’n berson sy’n cyffroi’n hawdd, ond weithiau dw i’n rhy gyffrous felly dw i’n hoffi ’sgwennu i reoli hynny.  Dw i ddim yn darllen llawer o farddoniaeth ond dw i’n licio sgwennu.

“Dw i’n ysgrifennu pan dw i mewn tymer dda neu mewn tymer ddrwg – unrhyw bryd pan fydd gen i ormod o unrhyw emosiwn.”

Mae James bellach yn dilyn cwrs ymarfer dysgu uwchradd, i addysgu Ffrangeg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ychwanegodd, “Dw i’n edrych ymlaen at rannu beth dw i’n ei wybod efo disgyblion er mwyn ei gwneud hi’n haws i fyfyrwyr ddysgu iaith.  Ro’n i’n fyfyriwr od, oedd ddim yn gallu dysgu yn y ffordd draddodiadol.  Ac mi fydda i’n gwybod sut i helpu myfyrwyr fel yna.

“Dw i hefyd yn edrych ymlaen at fyw fy mywyd trwy gyfrwng y Gymraeg.”