Mae cynrychiolwyr o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol newydd dreulio cyfnod yn cael blas ar ddulliau a gweithdrefnau Gwlad y Basg o ddysgu Basgeg i oedolion.
Prif bwrpas y daith oedd ymweld â swyddfeydd HABE yn San Sebastian. HABE yw’r corff canolog sy’n gyfrifol am gyllido dysgu Basgeg i oedolion. Aeth y criw i ganolfan breswyl debyg i Nant Gwrtheyrn hefyd, o’r enw Maizpide.
Roedd Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan, yn un o’r rheiny ar y daith. Mae tîm y wasg y Ganolfan yn ei holi isod:
Sut groeso gethoch chi?
Fe gawson ni groeso arbennig gan holl staff HABE a baswn i’n hoffi diolch iddynt am ein tywys o amgylch eu swyddfeydd a chanolfan breswyl Maizpide. ’Dyn ni’n bwriadu ystyried, nawr, sut i rannu unrhyw syniadau a gawson ni a pharhau i rannu arfer dda trwy eu gwahodd i Gymru cyn bo hir.
Sut mae’r system dysgu Basgeg i oedolion yn wahanol i’n un ni yng Nghymru?
Fe ddaeth nifer o wahaniaethau i’r amlwg ond yr amlycaf oedd dwyster y dysgu. Mae dysgwyr y Fasgeg yn dysgu am o leiaf pedair awr yr wythnos, tra bod mwyafrif o’n dysgwyr ni yn dysgu am ddwy awr yr wythnos. A dweud y gwir, lleiafrif sy’n gwneud pedair awr yr wythnos yn unig, mae’r rhan fwyaf yn gwneud o leiaf naw awr, ac mae cannoedd o ddysgwyr yn dysgu yn llawn amser am gyfnodau estynedig. Ond mae’r Ganolfan yn dymuno cynyddu’r oriau dysgu trwy gynnig cyrsiau sy’n cyfuno dysgu yn y dosbarth ac ar-lein fel bod dysgwyr yn dod i ddysgu a defnyddio’r iaith yn gynt.
Ydyn nhw’n targedu carfannau gwahanol o bobl?
Ydyn, mae nifer o bobl ddi-waith yn cael eu targedu i ddilyn y cyrsiau ond mae pwyslais mawr ar geisio sicrhau bod staff yn cael eu rhyddhau o’u gwaith i ddysgu’r iaith.
Ydyn nhw’n cynnal cyrsiau mewn gweithleoedd?
Mae gweithleoedd yng Ngwlad y Basg yn rhyddhau staff o’u gwaith am gyfnodau dwys er mwyn mynd ati i ddysgu’r iaith. Mae hyn yn gallu amrywio o bedair wythnos i dri mis. Gyda’n cynllun ‘Cymraeg Gwaith’ newydd, ’dyn ni wedi dechrau cynnig rhywbeth tebyg.
Ffeithiau chwim am y Fasgeg
- Mae’r iaith Fasgeg yn bodoli mewn tair rhanbarth yn Ewrop, dwy yn Sbaen ac un yn Ffrainc.
- Mae’r tafodieithoedd yn gryf felly mae pobl gwahanol ardaloedd Gwlad y Basg yn cael trafferth deall ei gilydd ond mae ymgais wedi bod i greu iaith fwy niwtral.
- O ran yr oriau dysgu ar gyfer oedolion, mae’n debyg bod angen tua 1500 o oriau er mwyn dod yn rhugl yn yr iaith o’i gymharu â’r 600 awr sydd ei angen i ddysgu’r Gymraeg yn rhugl.
- Mae tua 600,000 o bobl yn siarad y Fasgeg. Mae’r cynnydd mwyaf wedi bob ymhlith y to iau gyda 71% o bobl ifanc rhwng 16-24 oed yn medru’r iaith erbyn hyn.
- Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2017-2018, mae 19% o oedolion yng Nghymru yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg, tra bo 12% arall yn adrodd bod ganddynt rywfaint o allu i siarad Cymraeg. Pobl ifanc 16-24 oed sy’n fwyaf tebygol o allu deall, siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg.
Disgrifiad llun
Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan yw'r ail o'r chwith yn y llun cyntaf ac Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sydd ar y dde.
Catalwnia
Aeth criw o Goleg Caerdydd a'r Fro i Gatalwnia y llynedd, i weld sut mae'r iaith Gatalaneg yn cael ei dysgu i oedolion. Gwyliwch eu fideo.