Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Taith yr Iaith

Taith yr Iaith

Sioe newydd yn dathlu ‘arwyr tawel’ yr iaith

Mae cynhyrchiad theatr newydd wedi'i gomisynu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn dod â hanes yr iaith Gymraeg yn fyw.

Mae ‘Taith yr Iaith’, sydd wedi ei ysgrifennu yn arbennig ar gyfer dysgwyr y Gymraeg, hefyd yn talu teyrnged i ‘arwyr tawel’ yr iaith, sef y miloedd o oedolion sy’n cofrestru ar gyfer cyrsiau Cymraeg bob blwyddyn.

Caiff ‘Taith yr Iaith’ ei pherfformio gan Llion Williams a enillodd y wobr am yr actor gorau yn y Gymraeg a’r Saesneg yng Ngwobrau Theatr Cymru eleni. Y gyflwynwraig, yr awdures a chyn Fardd Plant Cymru, Anni Llŷn, sydd wedi ysgrifennu’r sgript. Mae’r sioe wedi'i chynhyrchu gan gwmni theatr mewn addysg, Mewn Cymeriad.

Mae’r cynhyrchiad awr o hyd yn cyflwyno’r prif gamau yn hanes yr iaith Gymraeg, gan gynnwys cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg gan yr Esgob William Morgan ym 1588 a sefydlu Urdd Gobaith Cymru gan Syr Ifan ab Owen Edwards ym 1922. 

Yn dilyn perfformiadau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, bydd ‘Taith yr Iaith’ yn cael ei pherfformio i ddysgwyr y Gymraeg mewn cymunedau ar draws Cymru.

Mae Mewn Cymeriad yn arbenigo mewn cynhyrchu sioeau un-dyn yn seiliedig ar gymeriadau enwog mewn hanes, mewn ysgolion cynradd ar draws Cymru. Dyma’r tro cyntaf mae’r cwmni wedi paratoi cynhyrchiad ar gyfer cynulleidfa o oedolion.

Meddai Eleri Twynog Davies, sylfaenydd a chyfarwyddwraig Mewn Cymeriad:

"Wrth i Lywodraeth Cymru lansio ei strategaeth newydd i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050, mae’r cynhyrchiad newydd hwn yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o hanes diddorol yr iaith Gymraeg. Mae hefyd yn dathlu’r cyfraniad sy’n cael ei wneud gan ddysgwyr y Gymraeg. Mae eu hymroddiad a’u brwdfrydedd nhw yn bwysig tu hwnt i sicrhau parhad a llwyddiant yr iaith.

“Mae’r daith i ddeall a gwerthfawrogi’r iaith yn mynd law yn llaw gyda’i dysgu a dyna’r rheswm yr ydym yn gobeithio y bydd y cynhyrchiad hwn yn apelio at y dysgwyr, sy’n cael eu galw yn ‘arwyr tawel yr iaith’ yn y sioe.”

Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

"Mae theatr yn gyfrwng gwych i ddenu dysgwyr o bob oed i ddysgu am yr iaith Gymraeg a’i hanes, ac rydym wrth ein bodd yn cydweithio gyda Mewn Cymeriad ar y prosiect hwn.

“Mae dysgwyr yn aml yn crybwyll y bydden nhw yn hoffi dysgu mwy am hanes yr iaith, a’r sylwadau hynny sydd wedi arwain at gomisiynu’r sioe hon.”

“Yr ydym yn edrych ymlaen at groesawu dysgwyr i berfformiad cyntaf y sioe yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac i berfformiadau ar draws Cymru.”

Diwedd

Llwyfan
Llion Williams