Dych chi’n ‘nabod Iolo Williams? Mae Iolo Williams yn cyflwyno rhaglenni natur Springwatch, Autumnwatch a Winterwatch ar BBC2 ac i’w weld yn aml ar raglenni natur S4C.
Yn ystod mis Ebrill – Gorffennaf, bydd Iolo yn arwain pedair taith gerdded i ddysgwyr, o’r enw ‘Ar Droed’. Dyma gyfle arbennig i chi fwynhau sgwrs yn Gymraeg, yn yr awyr agored.
Y pedair taith fydd:
- 23/4/22 - Parc Margam, Castell Nedd Port Talbot (lle i 20 person)
- 8/5/22 - Ardal Dinbych (lle i 20 person)
- 29/6/22 - Cwm Idwal, Parc Cenedlaethol Eryri (lle i 20 person)
- 4/7/22 - Libanus, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (lle i 20 person)
Ar yr un dyddiadau, bydd teithiau lleol eraill yn cael eu cynnal ar draws Cymru. Felly os nad oes lle ar daith gyda Iolo Williams, mae digon o gyfleoedd eraill i sgwrsio tra’n crwydro.
Mae’r teithiau cerdded ‘Ar Droed’ yn brosiect ar y cyd rhwng Mentrau Iaith Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Maent hefyd yn rhan o her #MiliwnOGamau Mentrau Iaith Cymru – ymdrech grŵp i gerdded miliwn o gamau rhwng Ebrill a Gorffennaf 2022. Y gobaith yw rhoi mwy o gyfleoedd i bobl gymdeithasu yn Gymraeg, a chefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y teithiau rhad ac am ddim hyn, e-bostiwch ardroed@mentrauiaith.cymru